Our Plot \ Ein Darn o Dir

Across 2024 we’re beginning to imagine a community garden for the former playground and car park of The Old School. \ Yn ystod 2024, rydym yn dechrau dychmygu gardd gymunedol ar gyfer yr hen faes chwarae a’r maes parcio tu allan i’r Hen Ysgol.

We see the garden as a speculative tool to gather, root conversations and creative practice, and grow knowledge and skills for ways to live now. There will be three strands of activity happening:  

For Young people

In Spring 2024 we’ll begin Play/Ground – a series of creative workshops for 14-18 year olds to experiment with artistic practices, develop design skills thinking and learn green skills. The group will be working together to imagine and design an element of the community garden.

Monthly sessions will run from April to September and will be open to Young People living within 30 minutes of Peak’s sites (The Old School and Abergavenny Train Station). All participants will be offered a small bursary per session to take part. We’ll be announcing more details soon but if you’re interested in taking part please email ellen@peak.cymru

Play/Ground is being collaboratively developed with Peak Peers, a cohort of Young People (aged 18-30) who we worked with in 2022 and 2023. We recently spent the day with Jo Capper, Collaborative Programme Director at Grand Union, Digbeth, Birmingham. Jo shared with us her community-led arts practice and the journey of The Growing Project - a community gardening programme in Digbeth supporting vulnerably-housed people and those experiencing crisis. Back at the Old School, Jo invited us to spend time observing what’s already thriving on our plot. We discussed what it means to make a garden in a rural place and how to connect this site to the landscapes around it.  

For Local Residents

In the Spring we’ll also be hosting regular sessions for local residents to join therapeutic outdoor activities as the garden takes shape – an opportunity to meet with others in a relaxed social environment and learn new green skills. More on this soon.

 For Everyone  

Over the year, we’ll be convening seasonal community events at Peak to celebrate the seasons and related activities of sowing, growing and harvesting. We’ll be reflecting on our emerging garden, and the work of community-led horticulture and environmental groups and partners, to imagine future seasons within this new, shared landscape. 

To Learn More

If you’d like to learn more, please email Peak’s Community Coordinator Polly Hunter on polly@peak.cymru.

This project is supported by Powys Making a Difference Fund, The Ashley Family Foundation and Awards for All.

Rydym yn ystyried yr ardd fel offeryn myfyrgar y gellir ymgynnull o’i amgylch, gwreiddio sgyrsiau ac ymarfer creadigol, a thyfu gwybodaeth a sgiliau am ffyrdd i fyw nawr. Bydd tri elfen o weithgarwch:

 

I Bobl Ifanc

Yn ystod Gwanwyn 2024 byddwn yn dechrau Maes/Chwarae – cyfres o weithdai creadigol ar gyfer pobl ifanc 14-18 oed i arbrofi gydag arferion artistig, datblygu sgiliau dylunio a sgiliau gwyrdd. Bydd y grŵp yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn dychmygu a dylunio elfen o’r ardd gymunedol.

Bydd sesiynau misol yn cael eu cynnal rhwng mis Ebrill a Medi ac yn agored i Bobl Ifanc sy’n gweithio o fewn 30 munud o safle Peak (Yr Hen Ysgol a Gorsaf Drenau’r Fenni). Bydd yr holl gyfranogwyr yn cael cynnig bwrsariaeth fechan fesul sesiwn er mwyn cymryd rhan. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion cyn bo hir ond os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan cysylltwch â ellen@peak.cymru

Mae Maes/Chwarae yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda Peak Peers, grŵp o Bobl Ifanc (18-30 oed) y buom yn gweithio â nhw yn 2022 a 2023. Yn ddiweddar, treuliom ddiwrnod gyda Jo Capper, Cyfarwyddwr Rhaglen Cydweithio Grand Union, wnaeth rannu arferion, projectau a deunyddiau o The Growing Project – rhaglen arddio gymunedol yn Digbeth sy’n cefnogi pobl mewn llety dros dro a’r rheiny sy’n wynebu argyfyngau. Nôl yn Yr Hen Ysgol, gwahoddodd Jo ni i edrych ar yr hyn sydd eisoes yn ffynnu ar ein darn o dir. Buom yn holi sut beth yw creu gardd mewn lle gwledig a sut i gysylltu’r safle hwn â’r tirluniau o’i chwmpas.

I Bobl Leol

Yn ystod y Gwanwyn byddwn yn cynnal gweithgareddau therapiwtig awyr agored rheolaidd ar gyfer pobl leol wrth i’r ardd ddechrau siapio – cyfle i gwrdd â phobl eraill mewn amgylchedd cymdeithasol hamddenol a dysgu sgiliau gwyrdd newydd. Rhagor am hyn yn fuan.

 

I Bawb

Yn ystod y flwyddyn, byddwn yn hwyluso digwyddiadau cymunedol tymhorol yn Peak er mwyn dathlu’r tymhorau a gweithgareddau’n ymwneud â hau, medi a chynaeafu. Wrth i’r ardd flaguro, byddwn yn myfyrio ar waith garddwriaethol cymunedol a grwpiau a phartneriaid amgylcheddol, er mwyn dychmygu tymhorau’r dyfodol o fewn y tirlun newydd hwn y byddwn yn ei rannu.

I Ddysgu Rhagor

Er mwyn dysgu rhagor, ebostiwch Cydlynydd Cymundeol Peak, Polly Hunter ar  polly@peak.cymru.

Caiff y project hwn ei gefnogi gan Gronfa Gwneud Gwahaniaeth Powys, Sefydliad The Ashley Family ac Arian i Bawb. Dysgwch ragor am y project drwy gyfrwng y ddolen yn ein linktree