Situated websites, speculative writing & (re)connecting with peers
Our 2025 Autumn Gathering brought together young people, staff and collaborators to explore how organisational projects can become spaces for shared learning and youth-led decision making.
With designer and artistic technologist Benjamin Earl, and designer and artist Kirsten Spruit, we began imagining a new situated website for Peak. Their research - Coding in Situ: Towards a Site-specific and Regenerative Web – invites us to reimagine how we build and relate to the internet.
With writer and strategist Hanna Thomas Uose we engaged with speculative writing methods to envision a thriving future Wales, thinking together about how Peak can help bring these visions to life. This workshop forms part of the broader visioning work we’re undertaking with Hanna and strategic consultancy Align.
We also gathered with Young People from the last three years of Peak Peers to experiment and play with artist, clown and facilitator Cerian Hedd – using sound, costumes, movement and puppetry to re-stage folk tales from the Mabinogion
Morgan Hughes, who took part in Peak Peers 2024, has written a short text about their experience of the Autumn Gathering. You can read it below.
Supported by Paul Hamlyn Foundation.
Gwefannau lleoledig, sgwennu dyfaliadol ac ailgysylltu gyda chyfoedion
Daeth pobl ifanc, staff a chydweithwyr at ei gilydd ar gyfer Tyrfa’r Hydref 2025, er mwyn archwilio sut y gall projectau sefydliadol alluogi dysgu ar y cyd, yn ogystal â sicrhau bod penderfyniadau’n caeleu harwain gan bobl ifanc.
Gyda’r dylunydd a’r technolegwr celfyddydol Benjamin Earl, a’r dylunydd a’r artist Kirsten Spruit, dechreuom ddychmygu gwefan lleoledig i Peak. Mae eu hymchwil - Coding in Situ: Towards a Site-specific and Regenerative Web – yn ein gwahodd i ailddychmygu sut yr ydym yn adeiladu ac yn perthyn i’r wê fyd eang.
Gyda’r sgwennwr a’r strategydd Hanna Thomas Uose buom yn rhoi tro ar ddulliau sgwennu dyfaliadol er mwyn dychmygu dyfodol lle mae Cymru’n ffynnu, gan feddwl ar y cyd ynglŷn â sut y gall Peak helpu ddod â’rgweledigaethau hynny’n fyw. Roedd y gweithdy hwn yn rhan o’r gwaith gweledigaethol ehangach yr ydym yn ei wneud gyda Hanna a’r ymgynghoriaeth strategol, Align.
Daethom ynghyd hefyd gyda Phobl Ifanc sydd wedi bod yn rhan o Peak Peers dros y tair blynedd diwethaf er mwyn arbrofi a chwarae dan arweiniad yr artist, clown a’r hwylusydd Cerian Hedd – gan ddefnyddio sain, gwisgoedd, symudiad a gwaith pyped i ail-lwyfannu straeon gwerin o’r Mabinogi.
Gallwch ddarllen pwt isod gan Morgan Hughes, oedd yn rhan o Peak Peers 2024, am eu profiad o Dyrfa’r Hydref.
Cefnogwyd gan Sefydliad Paul Hamlyn.
Peak Autumnal Gathering, A Reflection
Morgan Hughes
At the end of October, Peak Cymru organised an Autumnal Gathering, a weekend of events looking forwards in anticipation, considering the organisation’s (and, more broadly, the countryside’s) future existence, reflecting on what shapes and spaces this existence might fill.
Day 1 – Situated Websites workshop with Benjamin Earl and Kirsten Spruit
Our opening conversation reminds us about the physical dimensions of the internet, often imagined to be pure ether, immaterial – actually, stored on a series of distant computers. An ever-growing energy demand with severe material and ecological consequences, exported, hidden away from our experiences, as we would hide waste.
We consider the importance of writing from within place and experience, allowing the material world to shape the virtual, rather than being an inconvenient dimension of it. Ben and Kirsten showed us a website they had designed for a community of artists, the Robida collective, whose routines, lived topographies and farming terraces of their remote Slovenian village shaped the sites design. We move on to see more sites, created by a range of people. One site tracks our passage through the 72 micro-seasons of Japan. We wonder whether in two weeks the earth in Japan will really begin to freeze over. As I write, daffodils bloom. Another site, powered by solar panels, dims to an orange colour or becomes inaccessible when the sunlight is scarce. The next site is a self-sufficient, zero-player game, which evolves based on updating satellite images of Palestine and its devastated land.
Ben and Kirsten’s work highlights that choosing to code a website for yourself could be a radical decision, creating a space away from the commodified web, outside its routines of directed and measured attention. The situated web returns our awareness to our lived experience and changing environment. We move through the Old School considering what shape the Peak situated web might take. A space that reflects the ebbs and flows of shared ideas, conversations, connections. The landscape shifts, incrementally. The plants in the garden grow. Different birds can be heard outside. Can the situated web grow with the weeds or rust with metal corners in the rain? We make a list of our desires for a future Peak website on a page hosted on a sort of solar powered mini-computer and find a space where it can hide from the weather.
Day 2 – Science fiction writing with Hanna Thomas Uose
Beginning the day by moving through the hills, we speak about the places we write from, while embroidering the shape of the landscape opposite onto a piece of fabric. I find similarities with others – I write from the bed, another writes from the floor, papers spread around. Setting out to write in these ways feels like dreaming, or playing, reaching backwards, towards the familiar. Writing about the future, on the other hand, can feel totally intangible – reaching towards something that, when grasped, can fill us with dread. The word ‘thrutopia’ catches my attention, grounding thinking about futures in present action.
Hanna’s writing workshop encourages an imaginative approach to thinking about the future. We read Islwyn Ffowc Elis’ utopian visions of his future Wales from 1957 – he dreamed mostly of slower roads and funded Welsh learning departments. Our future language was a key question, but an environmental question is also pressing. At times I can only picture a continuation of my present space, a bedroom interior, a hardwood floor covered in minute, amber coloured shells, dust suspended in a warm light, consequences shut out. The future depths of our present feel both obvious and inapproachable. Stepping outside of the immediate space, countering this feeling with utopian thinking, is necessary.
The conversation turns to community responses to mass flooding. Where – and how – could residents of Crickhowell live in a hundred years, after ever worsening floods? We begin to speculate around mitigation, adaptation, and remembrance. Heavy metals would be washed down to Newport and the mouth of the Usk. We imagine an invisible hand tipping once again, flooding a hundred villages. Responsibility is dispersed between a hundred politicians and CEO’s who ‘could have never seen this coming.’ Landlords on hilltops shore up their property boundaries, reveal their feudalistic nature. Fishing becomes a more necessary food-source over land-farmed animals. A boom in seaweed farming makes an abundance of laverbread. Those living in lower areas take to the warm new seas, setting off on houseboats. Gently, their shadows drift over empty terraced streets, unmoored from acres and boundaries. A network of radio communication flourishes.
Day 3 – Peak Peers Networking Day
The final day feels more personal in scale, beginning with movement activities. The atmosphere encourages connection and movement towards a future of collaboration, making new friends and reconnecting with old.
We split into groups to organise near-impromptu performative reinterpretations of the Mabinogion. Gwion/Taliesin is the panicked recipient of dire visions. To escape Cerridwen and his fate, he metamorphoses from one predated animal to another, (here sung aloud and mimed through cardboard cut outs of animals) in a witches’ duel, facing the future with playful adaptability.
Myfyrdod ar Dyrfa’r Hydref Peak
Morgan Hughes
Ar ddiwedd mis Hydref, trefnodd Peak Cymru Dyrfa’r Hydref, sef penwythnos o ddigwyddiadau oedd yn edrych yn eiddgar tua’r dyfodol, gan ystyried sut fodolaeth fydd gan y sefydliad(ac yn ehangach, cefn gwlad) yn y dyfodol, gan fyfyrio ar ba siapau a gofodau y gellid eu llenwi gyda’r bodolaeth hwn.
Diwrnod 1 – gweithdy Gwefannau Lleoledig gyda Benjamin Earl a Kirsten Spruit
Cawn ein hatgoffa wrth sgwrsio am ddimensiynau ffisegol y wê, a gaiff ei ystyried yn amlach na pheidio fel peth heb ffurf, haniaeth pur, di-sylwedd – ond y gwir yw bod y wê wedi ei storio ar gyfres o gyfrifiaduronpellennig. Dacw beiriannau sy’n mynnu rhagor o egni o hyd, gyda goblygiadau materol ac ecolegol dwys, sy’n cael eu hallforio, eu cuddio rhag ein profiadau bywyd, fel y byddwn ninnau’n cuddio gwastraff.
Rydym yn ystyried pwysigrwydd sgwennu o’r tu mewn i le neu brofiad, gan alluogi’r byd materol i ffurfio’r byd rhithiol, yn hytrach na bod yn ddimensiwn anghyfleus ohono. Dengys Ben a Kirsten wefan a gynlluniwydganddynt ar gyfer cymuned o artistiaid, casgleb Robida, lle’r oedd trefn dyddiol y mudiad, topograffeg eu bodolaeth, ynghyd â therasau ffermydd eu pentref gwledig yn Slofenia oll yn siapio dyluniad y safle. Symudwnymlaen i bori drwy rhagor o safleoedd gwê, wedi eu creu gan ystod o wahanol bobl. Mae un safle yn olrhain ein taith drwy 72 meicro-dymor yn Japan. A fydd y ddaear yn Japan yn dechrau rhewi’n gorn mewnpythefnos, o ddifrif? Wrth i fi sgwennu, mae daffodils yn blaguro. Mae safle arall, sydd wedi ei bweru gan baneli solar, yn gwanhau’n lliw oren neu’n troi’n anhygyrch pan fo golau’r haul yn brin. Gêm hunan-gynhaliol, heb chwaraewyr yw’r safle nesaf, sy’n datblygu drwy ddiweddaru lluniau o Balesteina a difethiad ei thir.
Mae gwaith Ben a Kirsten yn pwysleisio fod dewis creu eich cod eich hunan ar gyfer gwefan yn benderfyniad radical, wrth i chi greu gofod tu hwnt i’r wê fasnachol, tu hwnt i’w phatrymau clinigol o hawlio ein sylw. Mae’r wê lleoledig yn tynnu ein hymwybyddiaeth yn ôl at ein profiadau bywyd ein hunain a’n hamgylchedd newidiol. Rydym yn symud drwy’r Hen Ysgol gan ystyried pa ffurf y gall gwefan lleoledig Peak ei chymryd. Gofod sy’n adlewyrchu llanw a thrai rhannu syniadau, sgyrsiau, cysylltiadau. Mae’r tirwedd yn symud, tamed bach. Tyf planhigion yr ardd. Gellir clywed amrywiol adar tu fas. Ydy hi’n bosib i’r wê lleoledig dyfu gyda’rchwyn neu rydu gyda’r corneli metel yn y glaw? Lluniwn restr o’n dyheadau ar gyfer gwefan Peak y dyfodol ar dudalen sydd wedi ei gynnal ar math o gyfrifiadur bach wedi ei bweru gan yr haul, ac yn ei osod mewngofod lle y gall guddio rhag y tywydd.
Diwrnod 2 – Sgwennu gwyddonias gyda Hanna Thomas Uose
Dechreuwn yr ail ddiwrnod drwy ymlwybro rhwng y bryniau. Ni’n trafod sgwennu a lle ni’n sgwennu, wrth frodweithio siâp y tirlun gyferbyn â ni ar ddarn o ddefnydd. Ni’n canfod tiroedd cyffredin – dwi’n sgwennu o ’ngwely, mae un arall yn sgwennu o’r llawr, papur ar wasgar. Mae ceisio sgwennu yn y ffyrdd yma’n teimlo fel breuddwydio, neu chwarae, estyn am yn ôl, tuag at bethau cyfarwydd. Mae sgwennu am y dyfodol, ar y llaw arall, yn gallu teimlo’n hollol anghyffyrddadwy – estyn tuag at rywbeth sydd, wedi inni gael gafael arno, yn gallu bod yn destun cryn ofid. Mae’r gair ‘thrutopia’ yn denu fy sylw, term sy’n gwreiddio’r gwaith o feddwlam y dyfodol yng ngweithredoedd y presennol.
Mae gweithdy sgwennu Hanna yn ein hannog i feithrin dull dychmygus o feddwl am y dyfodol. Darllenom weledigaethau iwtopaidd Islwyn Ffowc Elis am Gymru’r dyfodol o 1957 – mae’n breuddwydio’n bennaf am heolydd arafach ac ariannu adrannau dysgu Cymraeg. Roedd iaith y dyfodol yn gwestiwn allweddol, ond felly hefyd y cwestiwn amgylcheddol. Ar brydiau, yr unig beth y gallaf ei ddychmygu yw parhad fy ngofodpresennol, ystafell wely, llawr pren caled wedi ei orchuddio â chregyn bychan, lliw ambr, dwst ynghrog mewn goleuni twym, dim goblygiadau. Mae dyfnderoedd dyfodolau’r presennol yn teimlo’n amlwg ac ynanghyrraeddadwy ar yr un pryd. Mae camu tu hwnt i’r gofod agos, a herio’r teimlad hwn drwy feddylfryd iwtopaidd, yn angenrheidiol.
Mae’r sgwrs yn troi at ystyried sut mae cymunedau’n ymateb i lifogydd mawr. Ble – a sut – all pobl Crug Hywel fyw mewn canrif, wrth ddioddef llifogydd sy’n gwaethygu o hyd? Dechreuwn feddwl ynglŷn â lliniaru, addasu, a choffáu. Byddai metelau trwm yn cael eu golchi ar hyd yr afon lawr i Gasnewydd ac aber yr afon Wysg. Ni’n dychmygu llaw anweledig yn goleddfu unwaith eto, gan lifogi cannoedd o bentrefi. Mae’rcyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng dwsin o wleidyddion ac arweinwyr cwmnïau ‘who could have never seen this coming.’ Mae perchnogion tir ar ben bryniau’n berwi gyda’u hagwedd ffiwdalaidd. Daw pysgota’nffynhonnell bwyd mwy hanfodol na chig anifeiliad ffermydd y tir. Mae cynnydd sydyn mewn ffermio gwymon yn creu peth wmbreth o fara lawr. Mae’r sawl sy’n byw yn y tiroedd is yn cael blas ar y moroedd cynhesach, ac yn ymgartrefu mewn tai ar y dŵr. Mae eu cysgodion yn tawel chwarae mig dros strydoedd teras gwag, sy’n rhydd o erwau a ffiniau. Mae rhwydwaith o gyfathrebu drwy gyfrwng radio yn blaguro.
Diwrnod 3 – Diwrnod Rhwydweithio Peak Peers
Mae’r diwrnod olaf yn teimlo’n fwy personol o ran ei raddfa, gan ddechrau gyda gweithgaredd symud. Mae’r naws yn annog cysylltiad a symudiad tuag at ddyfodol o gydweithio, gwneud ffrindiau newydd ac ailgysylltugyda hen ffrindiau.
Ni’n rhannu’n grwpiau i drefnu ail-ddychmygiadau perfformiadol byrfyfyr-bron o’r Mabinogion. Ffigwr pryderus Gwion/Taliesin yw derbyniwr y gweledigaethau echrydus. Er mwyn dianc rhag Ceridwen a’i ffawd, mae’ntroi o fod yn un anifail hynafol i’r llall, (yn yr achos hwn, drwy ganu mas a meimio drwy ddefnyddio toriadau cardfwrdd o anifeiliaid), mewn brwydr gyda’r wrach, gan wynebu’r dyfodol drwy addasu’n chwareus.