Usk Mapping Project / Prosiect Mapio’r Wysg
Huge thanks to Rey Hope, one of the project participants, for writing this overview of the programme activity. // Diolch yn fawr iawn i Rey Hope, un o gyfranogwyr y prosiect, am ysgrifennu’r trosolwg yma o weithgarwch y rhaglen.
The Living Usk
Weaving the winter together with the spring, Peak Cymru has worked alongside Action for Conservation to investigate what it means to really know a river. Where it flows, what it remembers, what it carries. How it's shaped the lives and lands of those living along its banks.
We have been gathering stories from people in the Usk River Catchment – trickling down from springs in upper Brecon, to Abergavenny and out to sea in Newport’s tidal mouth – transforming them into a collaborative, living map.
Listening Like Rivers
As the frogs were spawning in late February, 15 young people aged 14-30, including alumni from Play/Ground and Peak Peers, came together at the Penpont Project for a day of training. We began learning how to listen like rivers, curiously, with care, and dive into an experimental eco-cultural mapping process.
We traced fractal patterns in nature – observing endlessly repeating shapes in tree rings, lichens, curling ferns, branches – and how they reflect the river. Everything connected.
With our hands in the mud and boots in the river, we built leaky dams, mimicking how beavers manage water flows, and peered below the surface into a world swirling with sediment, life and memory, grounding our relationships with the Usk.
“It’s a joyous being that fills my day everyday” – Gavin Hogg (Penpont Project)
Making a Map That Breathes
In The Old School, we moved from fieldwork to creative practice, interpreting conversations on youth governance into a tactile and ink-smudged ‘more is more’ banner using transfer collage, gelli plate monotypes and text stamps.
Here, here, here – a fractal message reverberating.
Laying the foundations for community data collection, we created a basemap – plotting the river’s course with its many tributaries and anchoring with settlements. Designed to be collaborative, dynamic and unfinished, leaving space for the people we meet to bring it to life.
We brought the map into public places along the Usk, asking the community what does the river mean to you? What stories do you have about the river? How has the river changed?
“We had to just sit together for a minute and take on how much the river holds.”
Distilling these stories, themes of loss, joy, grief and resilience surfaced again and again, revealing the emotional ecology of the Usk. The map grew richer, layered by many hands and voices. Stitched, painted, printed and drawn.
An Invitation
“We’ve talked for a while about the idea of the River Usk being this non-human trustee, an entity, a part of the place, a part of the natural world, that would help guide us as an organisation in what we were doing” – Ellen Wilson (Peak Co-Director)
Feeding into the Usk Catchment Partnership knowledge hub, these living maps are offerings and tools for future restoration work, grounded in lived experience of the valley.
They are not static. They are alive and will continue to grow, asking us questions of how we can engage in care and collective action.
-------
This project was delivered in partnership with Action for Conservation, with funding from Bannau Brycheiniog National Park through the Usk Catchment Partnership. Peak’s work with young people is supported by the Paul Hamlyn Foundation.
Y Wysg fyw
Gan blethu’r gaeaf gyda’r gwanwyn, mae Peak Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag elusen Gweithredu dros Gadwraeth i ystyried beth yw adnabod afon mewn gwirionedd. I ble mae’n llifo, beth mae’n ei gofio, beth mae’n ei gario. Sut mae wedi siapio’r tir a bywydau’r rhai sy’n byw ar hyd ei glannau.
Rydyn ni wedi bod yn casglu straeon gan bobl yn Nalgylch Afon Wysg – yn diferu o ffynhonnau yn rhan uchaf Aberhonddu, i’r Fenni ac allan i’r môr drwy’r aber yng Nghasnewydd – gan eu trawsnewid yn fap byw, cydweithredol.
Gwrando fel afonydd
Wrth i’r brogaod fwrw’u grifft ddiwedd mis Chwefror, daeth 15 o bobl ifanc 14-30 oed at ei gilydd, gan gynnwys cyn aelodau Maes/Chwarae a Chyfoedion Peak, ar gyfer Prosiect Penpont i gael diwrnod o hyfforddiant. Fe ddechreuon ni ddysgu sut i wrando fel afonydd, yn chwilfrydig, yn ofalus, a phlymio i broses fapio eco-ddiwylliannol arbrofol.
Buon ni’n edrych ar batrymau ffractal ym myd natur – gan arsylwi siapiau’n ailadrodd yn ddiddiwedd mewn cylchoedd coed, cennau, rhedyn, canghennau – a sut maen nhw’n adlewyrchu’r afon. Mae cysylltiad rhwng popeth.
Gyda’n dwylo yn y mwd a’n hesgidiau yn yr afon, fe adeiladon ni argaeau oedd yn gollwng dŵr, gan efelychu sut mae afancod yn rheoli llif dŵr, a syllu o dan yr wyneb i weld byd o waddod, bywyd a chof, gan ddaearu ein perthynas â’r Afon Wysg.
“Mae’n rhywbeth byw sy’n fy llonni bob dydd” – Gavin Hogg (Prosiect Penpont)
Creu map sy’n anadlu
Yn yr Hen Ysgol, fe symudon ni o waith maes i ymarfer creadigol, gan ddehongli sgyrsiau ar lywodraethu ieuenctid a’u troi’n faner ‘mwy yw mwy’ gyffyrddol ac inclyd gan ddefnyddio gludwaith trosglwyddo, monoteipiau plât geli a stampiau testun.
Yma, yma, yma – neges ffractal yn atseinio.
Wrth osod y sylfeini ar gyfer gwaith casglu data cymunedol, fe greon ni fap sylfaen – gan blotio cwrs yr afon gyda’i hisafonydd niferus a’i hangori gydag aneddiadau. Cafodd ei gynllunio i fod yn gydweithredol, yn ddeinamig ac yn anorffenedig, gan adael lle i’r bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw ddod â’r map yn fyw.
Fe wnaethon ni ddangos y map mewn llefydd cyhoeddus ar hyd yr Afon Wysg, gan ofyn i’r gymuned beth mae’r afon yn ei olygu iddyn nhw? Pa straeon sydd ganddyn nhw am yr afon? Sut mae’r afon wedi newid?
“Roedd rhaid i ni eistedd gyda’n gilydd am funud er mwyn gwerthfawrogi faint o gysylltiadau oedd gan yr afon.”
Wrth ddistyllu’r straeon yma, roedd y themâu o golled, llawenydd, galar a gwytnwch yn dod i’r amlwg dro ar ôl tro, gan ddatgelu ecoleg emosiynol yr Afon Wysg. Tyfodd y map yn gyfoethocach, wedi’i haenu gan leisiau a dwylo’r ardal. Wedi’u gwnïo, eu paentio, eu hargraffu a’u darlunio.
Gwahoddiad
“Rydyn ni’n siarad ers tro am y syniad o feddwl am yr Afon Wysg fel ymddiriedolwr an-ddynol, fel endid sy’n rhan o’r lle, yn rhan o fyd natur, a fyddai’n ein helpu ac yn ein harwain fel sefydliad o ran yr hyn roedden ni’n ei wneud” – Ellen Wilson (Cyd-gyfarwyddwr Peak)
Gan fwydo i mewn i ganolfan wybodaeth Partneriaeth Dalgylch yr Wysg, mae’r mapiau byw yma’n gynigion ac yn offer ar gyfer gwaith adfer yn y dyfodol, wedi’u seilio ar brofiad byw o’r dyffryn.
Dydyn nhw ddim yn statig. Maen nhw’n fyw a byddan nhw’n parhau i dyfu, gan ofyn cwestiynau i ni ynglŷn â sut y gallwn ni ddarparu gofal a gweithredu ar y cyd.
-------
Cafodd y prosiect yma ei gyflwyno mewn partneriaeth ag elusen Gweithredu dros Gadwraeth, gyda chyllid gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog drwy Bartneriaeth Dalgylch yr Wysg. Cefnogir gwaith Peak gyda phobl ifanc gan Sefydliad Paul Hamlyn.