The Living Usk \ Mae’r afon Wysg yn fyw

I used to think of nature as a place of recharge and now I think of it as a place of resistance...I feel more energised by nature and building alternatives, especially in terms of community and ways of existing’– Max, Peak Peer

 At Peak, we root our work in the cultures, practices and places of rural Wales. We work with individuals and communities across the county boundaries of Powys, Monmouthshire, Torfaen, Blaenau-Gwent and Merthyr Tydfil, wrapping around the length of the River Usk. 

The Living Usk is a creative project in partnership with Action for Conservation. It brings young people together with ecologists, farmers, artists, scientists and community members to explore the future of the River Usk — and the people, wildlife and places connected to it.

In 2025, 21 young artists – Dan, Alma, Rey, Felix, Arron, Callum, Ella, Katie, Eve, Millie, Mariama, Isla, Emily, Betsi, Tia, Aneurin, Zeta, Cerys, Eben, Bem, and Rhys – interviewed over 200 Usk Valley residents. At community events and public markets in Brecon and Abergavenny, they spoke with farmers and fisher people, retirees, and school students, asking questions like: What do you love about the river? What wildlife do yousee? Where do you visit? What feels like it’s being lost?

‘O’n i’n arfer meddwl am fyd natur fel lle i orffwys a nawr fi’n meddwl amdano fel lle i ddysgu sut i wrthsefyll… Dwi’n teimlo bod natur yn rhoi egni i fi i feddwl am adeiladu ffyrdd amgen o fod, yn enwedig o ran cymuned a ffyrdd o fyw. Dwi eisiau cynnal y safbwynt hwn tu hwnt i’r rhaglen.’- Max, Peak Peer

Mae gwaith Peak wedi ei wreiddio yn niwylliannau ac ardaloedd y Gymru wledig. Rydym yn gweithio gydag unigolion a chymunedau ar draws ffiniau siroedd Powys, Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent a Merthyr Tydful, gan gofleidio’r Afon Wysg ar ei hyd.  

Project creadigol mewn partneriaeth â Action for Conservation yw The Living Usk. Mae’n dod â phobl ifanc ynghyd gydag ecolegwyr, ffermwyr, artistiaid, gwyddonwyr ac aelodau’r gymuned er mwyn archwilio dyfodol yr Afon Wysg – a’r bobl, y bywyd gwyllt a’r llefydd sy’n gysylltiedig â hi.

Yn 2025, bu 21 artist ifanc – Dan, Alma, Rey, Felix, Arron, Callum, Ella, Katie, Eve, Millie, Mariama, Isla, Emily, Betsi, Tia, Aneurin, Zeta, Cerys, Eben, Bem, a Rhys – yn cyfweld â dros 200 o bobl Dyffryn Gwy. Mewn digwyddiadau cymunedol a marchnadoedd cyhoeddus yn Aberhonddu a’r Fenni, buon nhw’n sgwrsio gyda ffermwyr a physgotwyr, ymddeolai, a disgyblion ysgol, gan ofyn cwestiynau megis: Beth wyt ti’n ei garu am yr afon? Pa fywyd gwyllt wyt ti’n ei weld? Pa lefydd wyt ti’n ymweld â nhw? Pa bethau sy’n teimlo fel pe baent yn cael eu colli?

The group reviewed every interview and pulled out shared stories, ideas and connections. From this they created the Usk Catchment Map: an ‘eco-cultural’ map that acts as a living interpretation of a valley community’s knowledge of, and connection to, the river. You can read more about how the map was made in an overview written by project participant Rey Hope.

The making the map was also documented by local filmmakers Ben F Roberts and Rhys Jones, both former Peak Peers. Across 16-minutes, the film charts the map’s creation through the words of young artists, youth workers, and Usk Valley residents.   

The map travelled to Hay Festival (where it was featured by Robert Macfarlane), Abergavenny Pride, Brecon County Show, and youth clubs across the region. An exhibition and film launch at Newport’s Riverfront in November 2025 sparked future activity around Usk Mouth and the Severn Estuary. You can read more about the exhibition here.  

Aeth y grŵp ati wedyn i adolygu pob un cyfweliad er mwyn canfod straeon, syniadau a chysylltiadau tebyg. Y cysylltiadau hyn oedd sail creu Map Dalgylch yr Afon Wysg: map ‘eco-ddiwylliannol’ sy’n gweithredu fel dehongliad byw o wybodaeth cymuned y dyffryn ynglŷn â’r afon, a’u cysylltiad â hi. Gallwch ddarllen rhagor ynglŷn â sut grëwyd y map mewn trosolwg a ysgrifennwyd gan Rey Hope, a oedd yn rhan o’r project.

Yn ogystal, cafodd y broses o greu’r map ei ddogfennu gan y ffilmwneuthurwyr lleol Ben F Roberts a Rhys Jones, dau sydd wedi bod yn rhan o Peak Peers yn y gorffennol. Mewn 16 munud, mae’r ffilm yn dadlennu’r broses o greu’r map, drwy eiriau artistiaid ifanc, gweithwyr ieuenctid a phobl Dyffryn Wysg.

Aeth y map ar daith i Ŵyl y Gelli (lle gafodd ei drafod gan Robert Macfarlane), Balchder Y Fenni, Sioe Sir Aberhonddu, a chlybiau ieuenctid ar draws y rhanbarth. Cafwyd arddangosfa a lansiad ffilm ym mis Tachwedd yng Nghanolfan Glan Yr Afon, Casnewydd, a ysgogodd rhagor o weithgarwch ynglŷn ag Aber yr afon Wysg a Moryd Hafren. Gallwch ddarllen rhagor am yr arddangosfa fan hyn.

What’s Next

In 2026 we’ll be working with Action for Conservation, Landed Futures and the Usk Catchment Partnership on a new project focussed on two tributaries of the Usk – the Gwrthyd and the Gavenny. We will be working with young people aged 14—30 in the Usk Valley to interview community members, work with artists to create maps and artefacts, and use these to advocate for river restoration in the valley.

Youth Nature Guardians 

  • Are you 14-30 and living in or near the Usk Valley?   

  • Curious about the river Usk and how communities can look after it? 

  • Want to meet others, learn new things, and share your ideas? 

Join Youth Nature Guardians. 

We meet every school holiday for creative workshops and river visits. We also take part in Usk Catchment Partnership meetings — listening to decision-makers and sharing our ideas for how the river can be cared for and restored.  

Dates  

  • Friday 10 April  

  • Wednesday 27 May 

  • Friday 24 July  

  • Monday 26 October 

At The Old School, Brecon Road, Crickhowell, Powys, NP8 1DG  
 

Learn more and sign up

14-17? Sign up here.

18-30? Contact ellen@peak.cymru | 07940542611

This project is supported by Esmee Fairburn Foundation through the Llifo partnership of Action for Conservation, Peak Cymru, Landed Futures and the Usk Catchment Partnership.

Beth sy’n dod nesa’

Yn 2026 byddwn yn gweithio gyda Action for Conservation, Landed Futures a Phartneriaeth Dalgylch yr Afon Wysg ar broject newydd sy’n canolbwyntio ar ddau isafon sy’n deillio o’r Wysg – y Gwrthyd a’r Fenni. Byddwn ni’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 – 30 oed yn Nyffryn Wysg i gyfweld ag aelodau’r gymuned, gweithio gydag artistiaid i greu mapiau ac arteffactau, a defnyddio’r rhain i genhadu yn y dyffryn dros weithredoedd i adfer yr afon.

Gwarcheidiad Natur Ifanc 

  • Wyt ti rhwng 14-30 oed ac yn byw yn, neu gerllaw, Dyffryn Wysg? 

  • Wyt ti’n chwilfrydig ynglŷn â’r afon Wysg a sut y gall cymunedau ofalu amdani? 

  • Wyt ti eisiau cwrdd â phobl eraill, dysgu pethau newydd, a rhannu eich syniadau?

Ymunwch â Gwarcheidiaid Natur Ifanc. 

Ni’n cwrdd bob gwyliau ysgol ar gyfer gweithdai creadigol a theithau i’r afon. Rydym ni hefyd yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd Partneriaeth Dalgylch yr Wysg - gan wrando ar y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a rhannu ein syniadau ynglŷn â sut y gellir gofalu am ac adfywio’r afon. 

Dyddiadau  

  • Dydd Gwener 10 Ebrill 

  • Dydd Mercher 27 Mai 

  • Dydd Gwener 24 Mehefin 

  • Dydd Llun 26 Hydref 

Yn Yr Hen Ysgol, Heol Aberhonddu, Crug Hywel, Powys, NP8 1DG

Dysgu mwy a chofrestru

14-17? Cofrestrwch fan hyn.

18-30? Cyswllt ellen@peak.cymru | 07940542611 

Caiff y project hwn ei gefnogi gan Sefydliad Esmée Fairburn drwy bartneriaeth ‘Llifo’ Action for Conservation, Peak Cymru, Landed Futures a Phartneriaeth Dalgylch yr Wysg.