Rural Stiwdio

Rural Stiwdio is Peak’s creative programme for 14-18 year old’s.

In school holidays, and on the third Wednesday of every month, we host free, hands-on workshops where you can explore different ways artists imagine, make and respond to the world around them. At Rural Stiwdio, you’ll learn new skills, share ideas, and experiment with what art can be — no experience needed.

Rural Stiwdio yw rhaglen greadigol Peak i bobl ifanc rhwng 14-18 oed.

Yn ystod gwyliau’r ysgol, ac ar bob trydydd Dydd Mercher o’r mis, rydym yn cynnal gweithdai ymarferol rhad ac am ddim lle y bydd modd i chi brofi’r gwahanol ffyrdd y mae artistiaid yn dychmygu, creu ac ymateb i’r byd o’u hamgylch. Gyda Rural Stiwdio, byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn rhannu syniadau ac yn arbrofi gyda’r hyn y gall celf fod – does dim angen unrhyw brofiad.

In 2025 young people experimented with writing, printmaking, photography, zine-making, costume, sculpture, sound and performance.  Together, they explored ways to connect more deeply with the places we live; they mapped rivers and stories; thought about creative responses to the ecological crisis; built machines that interrupt the endless ‘doom scroll’ and created playful inventions for moments of shared celebration.

Workshops were led by artists and collaborators including George Hampton-Wale, Casey Bailey, Mariana Zentella, Ben F Roberts, Katie Wintle, Paul Granjon, Gweni Llwyd, Liaqat Rasul, Gwenllian Davenport and Felix Stevenson-Davies. 

Before Rural Stiwdio, there was Play/Ground. You can learn more about this 2024 programme here.

How to Take Part

Monthly Drop-in Sessions

Drop-in sessions take place on the third Wednesday of every month, running 4-6pm at The Old School, Crickhowell.

You can join in with planned activities or use Peak’s space and resources to work on your own ideas and projects. Each session is supported by a young artist from the Peak Peers network, who’ll share tools, skills and creative practice.

Drop-ins are a relaxed way to meet the Peak team, try something creative, and spend time with other young people.

Activities coming up

Are you 14-18?  

Live in South Powys, Monmouthshire or nearby? 

Join a group of young people to:  

  • Try different creative activities with artists 

  • Explore how rivers shape communities and how communities shape rivers 

Upcoming Workshops 

We meet every school holiday for workshops. 

Easter holidays: Monday 30 March & Tuesday 31 March 

Join artist Vivian Ross-Smith, an artist who creates performances, textiles and objects inspired by place and community.  

 At The Old School, Brecon Road, Crickhowell, Powys, NP8 1DG

To take part, you can sign up online - https://forms.gle/xeVwTgbh8YYupuuc7 - get in touch with ellen@peak.cymru / 07940542611.

Support

This programme is supported by ACW and Paul Hamlyn Foundation.


Yn 2025 bu pobl ifanc yn arbrofi gyda sgwennu, argraffu, ffotograffiaeth, creu zines, gwisgoedd, cerflunio, sain a pherfformio. Gyda’i gilydd, buon nhw’n archwilio ffyrdd o adnabod y llefydd lle’r ydym ni’n byw; drwy fapio afonydd a straeon; drwy ystyried ymatebion creadigol i’r argyfwng ecolegol; drwy adeiladu peiriannau sy’n tarfu ar y ‘doom scroll’ diddiwedd, a thrwy greu dyfeisiadau chwareus er mwyn gallu cyd-ddathlu.

Cafodd y gweithdai eu harwain gan artistiaid a chydweithwyr oedd yn cynnwys George Hampton-Wale, Casey Bailey, Mariana Zentella, Ben F Roberts, Katie Wintle, Paul Granjon, Gweni Llwyd, Liaqat Rasul, Gwenllian Davenport a Felix Stevenson-Davies. 

Cyn Rural Stiwdio, roedd Play/Ground. Gallwch ddysgu rhagor am y rhaglen hon a gynhaliwyd yn 2024 fan hyn.

Sut i gymryd rhan

Sesiynau Misol - galw mewn

Caiff sesiynau galw-i-mewn eu cynnal ar bob trydydd Dydd Mercher o’r mis, ac maen nhw’n cael eu cynnal rhwng 4-6yh yn Yr Hen Ysgol, Crug Hywel.

Mae modd i chi fod yn rhan o’r gweithgareddau sydd wedi eu trefnu neu ddefnyddio gofod ac adnoddau Peak er mwyn gweithio ar eich syniadau a’ch projectau eich hunain. Caiff pob sesiwn ei gefnogi gan artist ifanc o rwydwaith Peak Peers, fydd yn rhannu eu hadnoddau, sgiliau a’u hymarfer creadigol.

Mae sesiynau galw-i-mewn yn ffordd jacôs o gwrdd â thîm Peak, i drio rhywbeth newydd, ac i dreulio amser gyda phobl eraill.

Digwyddiadau ar y gweill

Wyt ti rhwng 14-18 oed?  

Yn byw yn Ne Powys, Sir Fynwy neu rywle cyfagos?

Ymunwch a grwp o bobl ifanc er mwyn: 

  • Rhoi cynnig ar weithgareddau creadigol amrywiol gydag artistiaid 

  • Archwilio sut mae afonydd yn siapio cymunedau a sut mae cymunedau’n siapio afonydd 

Gweithdai ar y gweill

Mae gweithdai’n cael eu cynnal yn ystod pob gwyliau ysgol.

Gwyliau’r Pasg: Dydd Llun 30 Mawrth & Dydd Mawrth 31 Mawrth 

Ymunwch â Vivian Ross-Smith, artist sy’n creu perfformiadau, gwaith tecstilau a gwrthrychau wedi’u hysbrydoli gan lefydd a chymuned. 

Yn Yr Hen Ysgol, Heol Aberhonddu, Crug Hywel, Powys, NP8 1DG

I gymryd rhan, gallwch gofrestru ar-lein - https://forms.gle/wrLz5PZ9HRpkM1Nx9 - cysylltwch gydag ellen@peak.cymru / 07940542611.

Cefnogaeth

Caiff y rhaglen hon ei chefnogi gan CCC a Sefydliad Paul Hamlyn