Back to All Events

Art Night a Peak yn cyflwyno: Creating dangerously (we-I insist!), gan Alberta Whittle


Llun: Alberta Whittle, photograph by Matthew A Williams

Llun: Alberta Whittle, photograph by Matthew A Williams

Y mis yma, mae Gorsaf Drenau’r Fenni yn un o gyfres o leoliadau newydd ledled y DG sy’n cynnal Art Night 2021, gŵyl gelf gyfoes mis o hyd, rhad ac am ddim. Mae’r cyflwyniad yn lansio gofod celfyddydol newydd Peak, Platfform 2, ar ochr ddeheuol y trac trenau. Dros bum penwythnos, o’r 18fed o Fehefin i’r 17eg o Orffennaf bydd Platfform 2 yn cyflwyno Creating dangerously (we-I insist!), trioleg o ffilmiau gan yr artist Barbadian-Albanaidd, Alberta Whittle.

Wedi deunaw mis o drychineb a dinistr sosio-wleidyddol, mae Creating dangerously (we-I insist!) yn archwilio optegau protest, sianeli posib o ymwrthod, ac anghenrheidrwydd meddalwch a phleser. Mae teitl y drioleg yn plethu ymchwil gan Edwidge Danticat ar y potensial sydd gan gweithredu creadigol i ddod yn fath o gymun rhwng cynulleidfa ac artist, a theitl albwm Mac Roach, We Insist: Max Roach’s Freedom Now Suite (1960). Gyda myfyrdodau brys ar ryddid yn gyrru ei prosesau o ymchwil a chreu, mae’r drioleg o ffilmiau’n balansio ymdeimladau o edrych ‘nol ac edrych ‘mlaen, o ofod o anghytgord epidemiolegol a gwleidyddol.
— Alberta Whittle
HOLDING THE LINE: a refrain in two parts, Alberta Whittle, 2021 (delwedd ffilm)

HOLDING THE LINE: a refrain in two parts, Alberta Whittle, 2021 (delwedd ffilm)

Art Night 2021, wedi’i guradu gan Helen Nisbet, yw pumed blwyddyn yr ŵyl ond y gyntaf i weithio gyda phartneriaid a lleoliadau ledled y DG i greu mis llawn o ddigwyddiadau nosol dros mis Mehefin a Gorffennaf. Bydd penwythnos agoriadol Platfform 2 yn dangos comisiwn newydd sbon Alberta Whittle ar gyfer Art Night 2021, ffilm o’r enw HOLDING THE LINE: a refrain in two parts, ac ar y penwythnosau canlynol bydd ffilmiau diweddar eraill Alberta yn cael eu harddangos hefyd, gan ffurfio trioleg. Bydd rhaglenni paralel o dddangosiadau yn cael eu cynnal yn KLA ART, wedi’i gynhyrchu gan 32° East yn Uganda ar y 15fed o Orffennaf, ac yn CCA Derry-Londonderry, o 6-17 o Orffennaf.

Mae Peak wedi comisiynu ymatebion gan artistiaid a llenorion o Gymru bydd yn cael eu cyhoeddi mewn llyfryn am ddim, ac mae pobl ifanc sy’n byw ar hyd y linell dren yn ffurfio tîm o oruchwylwyr i’r gofod yn rhan o rhaglen datblygu professiynol Peak. Bydd gwybodaeth am fwy o ddigwyddiadau, bydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a gwahoddiadau i bobl ifanc, artistiaid a chymunedau lleol i ymateb i waith Alberta Whittle, yn cael ei bostio fan hyn yn fuan.

Amseroedd Agor

Penwythnos agoriadol

Gwener 18fed o Fehefin, 1-7yh
Sadwrn 19eg o Fehefin, 12-6yh
amseroedd dangos: pob 25 munud (nid oes angen bwcio, croeso i bawb)

Mae HOLDING THE LINE: a refrain in two parts 21 munud o hyd.

Penwythnosau canlynol

Dyddiau Gwener rhwng 1yh a 7yh
amseroedd dangos: 13:15 / 14:45 / 16.20 / 17.45 (plis archebwch amser penodol)

Sadyrnau rhwng 12yh a 6yh
amseroedd dangos: 12:15 / 13:45 / 15:15 / 16:45 (plis archebwch amser penodol)

Mae’r drioleg o ffilmiau 68 munud o hyd. 

Gwybodaeth ymweld a hygyrchedd

Ar y penwythnosau pan fyddwn yn dangos y drioleg lawn, gwahoddwn ymwelwyr i archebu tocyn trwy Eventbrite. Hoffwn sicrhau bod gan pawb sydd eisiau gweld yn sioe y cyfle i wneud. Cysylltwch ar info@peak.cymru, neu DMiwch ar @peakcymru, os hoffech drafod unrhyw beth am eich ymweliad e.e. amseroedd agor gwahanol, trefnu ymweliad grwp, bwrsariaethau teithio i ymweld a’r arddangosfa neu unrhyw beth arall sy’n dod i’r meddwl. Rydym yn gwrando, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gan bawb gyfle i ymuno gyda ni.

Oherwydd natur hanesyddol yr orsaf, pont droed a grisiau yw’r brif ffordd i gael mynediad at Platfform 2 ar hyn o bryd. Serch hynny, mae modd trefnu mynediad lefel ar draws y traciau o flaen llaw. Cysylltwch ar info@peak.cymru a fe allwn drefnu hyn i chi. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gosod lifft yn yr orsaf yn y 18 mis nesaf, ac edrychwn ymlaen i allu cynnig profiad gwbwl hygyrch i ymwelwyr yn y dyfodol.

Mae’r orsaf yn gallu bod yn brysur gyda threnau’n cyrraedd a gadael, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Os ydych yn cyrraedd yn gynnar, plis arhoswch wrth prif adeilad yr orsaf (neu ewch i gael paned yn y caffi!) cyn mynd at Platfform 2 jyst cyn eich slot.

Covid-19

Mae diogelwch ein ymwelwyr a’n goruchwylwyr yn bwysig iawn i ni a rydym yn dilyn cyngor iechyd cyhoeddus ynghylch covid-19 yn ofalus. Bydd uchafswm o 4 ymwelydd yn cael bod yn y gofod ar unwaith, a bydd pellhau cymdeithasol a gwisgo masg yn angenrheidiol. Wrth gyrraedd, bydd goruchwylydd yn gofyn i bawb am wybodaeth olrhain cyswllt, bydd yn cael ei gadw’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig. Mae’n amserlenni arddangos wedi eu cynllunio i alluogi glanhau seddi ac arwynebau eraill rhwng dangosiadau.

Am yr artist

Mae Alberta Whittle (g.1980, Bridgetown Barbados) yn byw a gweithio yn Glasgow. Prosesau ymchwil sy’n gyrru ei gwaith, sy’n cwmpasu perfformio, sgwennu, collage digidol a gosodiadau fideo, ac yn ddiweddar mae wedi arddangos gwaith yn Dundee Contemporary Arts (2019), y 13th Havana Biennial (2019) a GoMA, Glasgow (2019). Yn ystod 2021, mae Alberta yn rhannu gwaith newydd yn rhan o British Art Show 9, Liverpool Biennial, Glasgow Sculpture Studios a Phrifysgol Johannesburg. Yn 2022, hi bydd yn cynrychioli’r Alban yn y 59th Venice Biennale.

https://artnight.london/artist/alberta-whittle/

Previous
Previous
1 May

Ar-lein: Cerdded am yn ôl tua’r dyfodol: Grwpiau Darllen

Next
Next
9 July

ululations