“Time is a river which sweeps me along, but I am the river”*

Would you like to explore the Black Mountains, develop new skills and be part of a supportive peer group?  

Are you interested in exploring questions of climate change, land rights, biodiversity and creativity in a rural context?

Would you like to meet artists and people from other disciplines exploring these themes?

Peak Peers 2023 is a six day programme inviting young people to explore themes of climate change, land rights, biodiversity and creativity rooted in the Black Mountains. The programme takes place across two long weekends in October 2023 and includes creative workshops, walks and talks with artists, climate scientists, poets, farmers and activists. Peak Peers is hosted by Peak Cymru and based at their two sites - Platfform 2, Y Fenni Train Station and The Old School, Crickhowell - alongside visits to local land-based projects and partners. 

Peak Peers is open to 12 Young People (18-30) living within one hour of Abergavenny (living in Wales or England) and every participant receives a bursary of £500 to cover their travel and expenses. Please see below for how to apply, what to expect from the programme and other information.

Applications Now Open! 

⛰️ A six day creative programme inviting young people to work with artists and cross-disciplinary collaborators to explore questions of climate change, land rights, biodiversity, time and creative practice in rural spaces

🗓️ Introductory session in Abergavenny on Saturday 30 September + Friday 20 - Sunday 22 October + Friday 27 - Sunday 29 October, 10am to 4pm daily 

📍 Platfform 2, Abergavenny Train Station and Y Hen Ysgol, Crickhowell. 

✨ Creative workshops, making together, walks, talks + visits

🧍 For a group of 12 individuals aged 18-30, living within 1 hour of Abergavenny

💷 All participants will receive a £500 bursary for their time + travel  

💻 Drop-in Q+A session via Zoom: Thursday 31st August 2023, 5-7pm [https://us06web.zoom.us/j/83328469411]

⏰ Deadline: 9am, Thursday 14 September

What you can expect

We are looking for a group of 12 people aged 18-30 who are interested in coming together to share, listen, make and imagine. This will be a programme of creative workshops, walks, talks and visits around Abergavenny, Crickhowell and further afield. We’ll be based at Platfform 2, our project space at Abergavenny train station and The Old School in Crickhowell. 

  • You will work alongside a group of artists, geologists, poets, farmers, climate scientists, growers, cooks and activists

  • You will explore themes of climate change, land rights, biodiversity, and creative practice in rural spaces

  • You will build new skills and share existing ones + develop new friendships and networks. 

  • You will access one-to-one mentoring opportunities and have an opportunity to take part in an informal sharing event on the last day, shaped and planned by the group. 

  • All participants will receive a £500 bursary to cover expenses including travel for the programme. We will provide lunch each day. 

To apply you need to be

  • 18-30 years old

  • living within one hour of Abergavenny (living in Wales or England)

  • able to travel to/from Abergavenny or Crickhowell each day of the programme (all additional travel for special visits and trips will be arranged by Peak)

  • available for all the dates

  • interested in the themes, keen to try new things and work with other people. No experience of art programmes or technical skills are required. 

Access

In the application form you can tell us about your personal access needs – or, if you'd rather speak to a member of staff, please contact ellen@peak.cymru to arrange a phone call. Please note that this information will not inform the selection process but to ensure that the programme is accessible for all taking part. Platfform 2 at Abergavenny Station is accessed via a footbridge, or facilitated level access aided by station staff. Peak’s Old School site has level access. You can find out more about site facilities and accessibility information here

Questions?

Ellen and Louise from the Peak team will be hosting a drop-in Q&A session via zoom Thursday 31st August, 5-7pm. If you’d like to come along, please book via email.

If you need any support with the application form, or if you have any general questions, please email ellen@peak.cymru.

Important Dates 

  • Friday 1st September 5-7pm: informal Q+A on Zoom, link here: [https://us06web.zoom.us/j/83328469411]

  • Thursday 14th September 9am: deadline for applications

  • Thursday 21st September: all applicants informed of a decision by this date

  • Saturday 30 September: introductory session at Platfform 2, Abergavenny Train Station 

  • Friday 20th - Sunday 22nd October: first weekend of programme

  • Friday 27th - Sunday 29th October: second weekend of programme with reflection/sharing event

How to apply & selection process

We want to bring together a group with different interests and lived experiences, and offer an open space for enjoyment and connection over the programme. We particularly welcome applications from young people who have faced barriers to accessing creative opportunities, and who come from backgrounds that are underrepresented in the arts. If you’d like to discuss anything in confidence please get in touch.

Applications will be considered by a panel including young people who have previously taken part in Peak programmes and Peak staff. There is no interview stage, a selection will be made from the submitted applications. We will write to all applicants with a decision by Thursday 21st September. The programme is open to Young People who have taken part in previous Peak programmes with the exception of Platfform Haf 2022. 

To apply, please complete the online application form HERE

Peak Peers is a development of Platfform Haf 2022, a summer intensive for Young People at Platfform 2 which explored climate change, hope, power and collective making. Young People who took part in Platfform Haf have contributed to the programme design of Peak Peers and will be part of the selection panel. Peak Peers is generously funded by Colwinston Trust and Arts Council Wales. We’re grateful to Disability Arts Cymru for supporting Rebecca Jagoe’s Peak Peers workshop as part of their programme ‘Creativity is Mistakes’. 


Hoffech chi archwilio’r Mynyddoedd Duon, datblygu sgiliau newydd a bod yn rhan o grŵp o gyfoedion cefnogol?  

Oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio cwestiynau am newid hinsawdd, hawliau tir, bioamrywiaeth, a chreadigrwydd mewn cyd-destun gwledig?

Hoffech chi gwrdd ag artistiaid a phobl o ddisgyblaethau eraill sy’n archwilio’r themâu yma?


Rhaglen chwe diwrnod yw Cyfoedion Peak 2023, sy’n gwahodd pobl ifanc i archwilio themâu newid hinsawdd, hawliau tir, bioamrywiaeth, a chreadigrwydd sydd wedi’u gwreiddio yn y Mynyddoedd Duon. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal dros ddau benwythnos hir ym mis Hydref 2023, ac mae’n cynnwys gweithdai, sgyrsiau a mynd am dro gydag artistiaid, gwyddonwyr hinsawdd, beirdd, ffermwyr ac ymgyrchwyr. Cynhelir Cyfoedion Peak gan Peak Cymru ac mae wedi’i lleoli ar eu dau safle, Platfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni a’r Hen Ysgol, Crucywel, ochr yn ochr ag ymweliadau â phartneriaid a phrosiectau sy’n ymwneud â’r tir. 

Mae Cyfoedion Peak ar agor i 12 o Bobl Ifanc (18-30) sy’n byw o fewn awr i’r Fenni (yng Nghymru neu Loegr) ac mae pob cyfranogwr yn cael bwrsariaeth o £500 i dalu am eu costau teithio a threuliau. Gallwch weld isod sut i ymgeisio, beth i’w ddisgwyl gan y rhaglen, a gwybodaeth arall. 

Mae ceisiadau nawr ar agor!


⛰️ Cyfoedion Peak: Rhaglen chwe diwrnod sy’n gwahodd pobl ifanc i archwilio themâu newid hinsawdd, hawliau tir, bioamrywiaeth, a chreadigrwydd gyda chydweithwyr trawsddisgyblaethol

🗓️ Dyddiadau’r rhaglen: sesiwn groeso yn y Fenni dydd Sadwrn 30 Medi, ac yna Gwener 20 - Sul 22 Hydref, a Gwener 27 - Sul 29 Hydref, 10am i 4pm bob dydd 

📍 Platfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni a’r Hen Ysgol, Crucywel. 

✨ Gweithdai creadigol, cyd-greu, mynd am dro, sgyrsiau ac ymweliadau

🧍 I grŵp o 12 o bobl rhwng 18 a 30 oed, sy’n byw o fewn awr i’r Fenni

💷 Bydd pob cyfranogwr yn cael bwrsariaeth o £500 am eu hamser a’r teithio  

💻 Sesiwn alw heibio holi ac ateb ar Zoom: Nos Iau 31 Awst 2023, 5-7pm [https://us06web.zoom.us/j/83328469411]

⏰ Dyddiad Cau: 9am, Nos Iau 14 Medi

Beth i’w ddisgwyl

Rydyn ni’n chwilio am grŵp o 12 o bobl rhwng 18 a 30 oed sydd â diddordeb mewn dod at ei gilydd i rannu, gwrando, creu a dychmygu. Dyma raglen o weithdai creadigol, mynd am dro, sgyrsiau ac ymweliadau o gwmpas y Fenni, Crucywel, a thu hwnt. Byddwn ni ym Mhlatfform 2, sef ein gofod prosiect yng ngorsaf drenau’r Fenni, a’r Hen Ysgol yng Nghrucywel. 

  • Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â grŵp ysbrydoledig o artistiaid, daearegwyr, beirdd, ffermwyr, gwyddonwyr hinsawdd, tyfwyr, cogyddion ac ymgyrchwyr

  • Byddwch yn archwilio themâu newid hinsawdd, hawliau tir, bioamrywiaeth, ac arferion creadigol mewn gofodau gwledig

  • Byddwch yn datblygu sgiliau newydd ac yn rhannu eich sgiliau presennol, ac yn datblygu cyfeillgarwch a rhwydweithiau. 

  • Bydd gennych fynediad at gyfleoedd mentora un i un ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad rhannu anffurfiol ar y diwrnod olaf, wedi’i siapio a’i gynllunio gan y grŵp. 

  • Bydd pob cyfranogwr yn cael bwrsariaeth o £500 i dalu am dreuliau, gan gynnwys teithio i’r rhaglen. Byddwn ni’n darparu cinio bob dydd. 

I ymgeisio, mae angen i chi fod

  • yn 18-30 oed

  • yn byw o fewn awr i’r Fenni (yng Nghymru neu Loegr)

  • yn gallu teithio i’r Fenni neu Grucywel ac oddi yno bob dydd o’r rhaglen (bydd Peak yn trefnu unrhyw deithio ychwanegol ar gyfer ymweliadau a theithiau arbennig)

  • ar gael ar yr holl ddyddiadau

  • â diddordeb yn y themâu, yn awyddus i roi cynnig ar bethau newydd ac i weithio gyda phobl eraill. Does dim angen unrhyw brofiad o raglenni celf na sgiliau technegol.

Hygyrchedd

Yn y ffurflen gais, gallwch sôn wrthon ni am eich anghenion hygyrchedd personol. Os byddai’n well gennych siarad gydag aelod o staff am hyn, cysylltwch ag ellen@peak.cymru i drefnu galwad ffôn. Dylech nodi na fydd y wybodaeth yma’n dylanwadu ar y broses ddewis, dim ond yn helpu i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn hygyrch i bawb sy’n cymryd rhan. Gallwch gyrraedd Platfform 2 yng Ngorsaf Drenau’r Fenni drwy bont gerdded neu fynediad gwastad wedi’i hwyluso gan staff yr orsaf. Mae mynediad gwastad i safle Hen Ysgol Peak. Mae rhagor o wybodaeth am gyfleusterau’r safle a gwybodaeth hygyrchedd yma

Cwestiynau?

Bydd Ellen a Louise o dîm Peak yn cynnal sesiwn galw heibio ar Zoom er mwyn i chi gael holi cwestiynau nos Iau 31 Awst rhwng 5 a 7pm. Os hoffech ddod i’r sesiwn, archebwch le drwy e-bost.

Os oes angen cymorth arnoch chi gyda’r ffurflen gais, neu os oes gennych gwestiynau cyffredinol, anfonwch e-bost at ellen@peak.cymru.

Dyddiadau Pwysig

  • Nos Wener 1 Medi 5-7pm: sesiwn holi ac ateb anffurfiol ar Zoom, dolen yma: [https://us06web.zoom.us/j/83328469411]

  • Dydd Iau 14 Medi 9am: dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

  • Dydd Iau 21 Medi: pob ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniad erbyn y dyddiad yma

  • Dydd Sadwrn 30 Medi: sesiwn groeso ym Mhlatfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni 

  • Dydd Gwener 20 - dydd Sul 22 Hydref: penwythnos cyntaf y rhaglen

  • Dydd Gwener 27 - dydd Sul 29 Hydref: ail benwythnos y rhaglen gyda digwyddiad myfyrio/rhannu

Sut i ymgeisio a’r broses ddewis

Rydyn ni’n awyddus i ddod â grŵp o bobl at ei gilydd sydd â gwahanol ddiddordebau a phrofiadau bywyd, a chynnig lle cefnogol i fwynhau a chysylltu ar draws y rhaglen. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn arbennig gan Bobl Ifanc sydd wedi profi rhwystrau rhag cael mynediad at gyfleoedd creadigol, ac sy’n dod o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli yn y celfyddydau. Os hoffech drafod unrhyw beth, neu os oes angen cymorth arnoch chi i wneud cais, cysylltwch â ni.

Bydd y ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel sy’n cynnwys Pobl Ifanc sydd wedi cymryd rhan yn rhaglenni Peak o’r blaen, a staff Peak. Does dim cam cyfweld, bydd y dewis yn cael ei wneud ar sail y ceisiadau sy’n ein cyrraedd. Byddwn ni’n ysgrifennu at bob ymgeisydd i roi gwybod am y penderfyniad erbyn dydd Iau 21 Medi. Mae’r rhaglen ar agor i Bobl Ifanc sydd wedi cymryd rhan yn rhaglenni Peak o’r blaen, oni bai am Blatfform Haf 2022.

I ymgeisio, llenwch y ffurflen gais ar-lein, sydd ar gael YMA.

Cafodd Cyfoedion Peak ei datblygu o raglen Platfform Haf 2022, sef rhaglen ddwys i Bobl Ifanc ym Mhlatfform 2 a oedd yn archwilio newid hinsawdd, gobaith, grym, a chyd-greu. Mae’r Bobl Ifanc a gymerodd ran yn rhaglen Platfform Haf wedi cyfrannu at ddylunio rhaglen Cyfoedion Peak, a byddan nhw’n rhan o’r panel dewis. Caiff Cyfoedion Peak ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Colwinston a Chyngor Celfyddydau Cymru.

*Jorge Luis Borges, Labyrinths: Selected Stories & Other Writings.

Learn more about the Peak Pears 2023 contributors

Alan Bowring is a geologist based in Abergavenny and development officer for the Fforest Fawr Geopark, the western section of the Bannau Brycheiniog National Park. Alan is usually found introducing visitors and tourism businesses to the ‘deep time’ history of the Bannau Brycheiniog. In pursuing the links between the ‘-ologies’ and the natural and cultural histories of the Park’s special places, he draws too from his experience of countryside conservation and outdoor recreation to dig beneath the surface of this palimpsest conjured from stone and earth and wood and water.

Muneera Pilgrim is an international Poet, Cultural Producer, Writer, Community Researcher, Broadcaster,  TEDx Speaker  and WOW Festival Speaker. She conducts workshops, shares art, guest lectures, hosts, and finds alternative ways to educate and exchange ideas while focusing on methodologies of empowerment for non-centred people. At heart, Muneera is a storyteller, concerned with telling stories to disrupt mainstream narratives of non centred people globally. Her Debut Poetry collection 'That Day She’ll Proclaim Her Chronicles’ was released in November 2021 through Burning Eye Books.

Marwa’s Arsanios’ practice tackles structural and infrastructural questions using different devices, forms and strategies. From architectural spaces, their transformation and adaptability throughout conflict, to artist-run spaces and temporary conventions between feminist communes and cooperatives, the practice tends to make space within and parallel to existing art structures allowing experimentation with different kinds of politics. Film becomes another form and a space for connecting struggles in the way images refer to each other.  In the past four years Arsanios has been attempting to think about these questions from a new materialist and a historical materialist perspective through different feminist movements that are struggling for their land. She tries to look at questions of property, law, economy and ecology from specific plots of land. The main protagonists become these lands and the people who work them. Her research includes many disciplines and is deployed in numerous collective methodologies and collaborative projects.

Rebecca Jagoe is a non-binary, disabled, autistic artist who works across text, performance and sculpture. Their work is a material memoir which examines how experiences of illness, madness, and gender are informed by specific Western, imperialist narratives around the ‘human’, and human dominion over the earth. Posing critiques of violent resource extraction; attempting to speak to a coral necklace; seeking erotic connection with a beach in Wicklow; considering the connections between madness, landscape and capital: Jagoe’s work reminds us that all matter is alive, it just moves at different timeframes. 

Open-weather is a feminist experiment in imaging and imagining the earth and its weather systems using DIY tools. Co-led by Soph Dyer and Sasha Engelmann, open-weather creates artworks, leads inclusive workshops and develops resources on the reception of images from National Oceanic and Atmospheric Administration (NOAA) satellites. Through these activities, a fragile network has formed around the project, now including over one hundred DIY satellite ground station operators around the world, from Buenos Aires to Berlin. In the tradition of intersectional feminism, open-weather investigates the politics of location and interlocking oppressions that shape our capacities to observe, negotiate, and respond to the climate crisis. In doing so, open-weather challenges dominant representations of earth and environment while complicating ideas of the weather beyond the meteorological.

Penpont is a family run estate set on the banks of the River Usk in the Bannau Brycheiniog and home to the Penpont Project, an intergenerational land-based project. Young people are working in partnership with farmers, landowners, conservationists and local stakeholders, and together they are restoring habitats and ecosystems and exploring innovative farming and forestry approaches to provide a healthy support system for people, biodiversity and agriculture.

Sophie Mak-Schram (she/her) is an art historian, producer, educator and occasional practitioner. She likes to think-work-make-be about how we (come to) know and what forms those knowledges take. Amongst other things, Sophie has been one half of Tail Bend Travel (2016-2019), a (sometimes fictional) tour company offering new ways of exploring the local, one part of Cera Project, a curatorial platform for art of the non-West, and one part of PACTO, an international art collective exploring autonomy within collective practice. She has also been working with experiential and embodied education since 2016, exploring how we understand who we are and what we can do with that understanding, across communities in Turkey, Wales, China, Japan, the Netherlands, India, England, Italy and more. She likes to linger in the ‘and’ between art and education.

Fieldwork Studio is led by Welsh artist Phoebe Davies in partnership with Slade Farm Organics, a three-generation family farm tenancy situated on the Glamorgan Heritage Coast. The studio programme spans artist development, rural residencies and community growing.

Fin Jordao (they/them) is an educator on ecological sanitation, human ecology, water pollution solutions, human – waste – place relations. They maintain the ecological off grid water and sewerage systems at CAT. They farm worms, microbes, fungi and other multitudes in sand filters, bioreactors and compost heaps. They research and write about ecological aesthetics and queer ecology, in the form of manifestos, zines, scripts and choreographic scores. They are currently slowly touring a participatory outdoor performance with the Glanio collective in Cymru. They co-founded a brand new non-profit Criw Compostio collecting things that rot to make compost to grow food. They live with their partner in a self-built straw bale house in the Dyfi valley, their mamiaith is portuguese.


Daearegwr sy’n byw yn y Fenni yw Alan Bowring, ac mae’n swyddog datblygu ar gyfer Geoparc Fforest Fawr, sef rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Alan fel arfer i’w weld yn cyflwyno ymwelwyr a busnesau twristiaeth i hanes ‘amser dwfn’ y Bannau Brycheiniog. Wrth fynd ar drywydd y cysylltiadau rhwng yr ‘-olegau’ a hanesion naturiol a diwylliannol mannau arbennig y Parc, mae hefyd yn defnyddio ei brofiad o gadwraeth cefn gwlad a hamdden awyr agored i gloddio o dan wyneb y palimpsest wedi’i greu o garreg a phridd a phren a dŵr.

Mae Muneera Pilgrim yn Fardd rhyngwladol, Cynhyrchydd Diwylliannol, Awdur, Ymchwilydd Cymunedol, Darlledwr,  Siaradwr TEDx ac yn siaradwr Gŵyl WOW. Mae’n cynnal gweithdai, yn rhannu celf, yn cynnal darlithoedd gwadd, yn cyflwyno, ac yn dod o hyd i ffyrdd amgen o addysgu a chyfnewid syniadau wrth ganolbwyntio ar fethodolegau ar gyfer grymuso pobl sydd heb eu canoli. Yn y bôn, adroddwr straeon yw Muneera, gan adrodd straeon sy’n tarfu ar y naratifau prif ffrwd am bobl sydd heb eu canoli yn fyd-eang. Cafodd ei chasgliad cyntaf o gerddi 'That Day She’ll Proclaim Her Chronicles’ ei ryddhau ym mis Tachwedd 2021 drwy Burning Eye Books.

Mae arfer Marwa Arsanios yn taclo cwestiynau strwythurol ac is-strwythurol gan ddefnyddio dyfeisiau, ffurfiau a strategaethau. O ofodau pensaernïol, eu trawsnewidiad a’u gallu i addasu drwy wrthdaro, i ofodau sy’n cael eu rhedeg gan artistiaid a chonfensiynau dros dro rhwng mentrau cydweithredol a chomiwnau ffeministaidd, mae’r arfer yn dueddol o greu gofod sy’n rhan o strwythurau celf sy’n bodoli ac yn gyfochrog â nhw, gan ganiatáu ar gyfer arbrofi gyda gwahanol fathau o wleidyddiaeth. Mae ffilm yn dod yn ffurf arall ac yn ofod ar gyfer cysylltu anawsterau yn y ffordd mae delweddau’n cyfeirio at ei gilydd.  Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae Arsanios wedi bod yn ceisio meddwl am y cwestiynau yma o safbwynt materolaidd newydd a safbwynt materolaidd hanesyddol, drwy wahanol fudiadau ffeministaidd sy’n brwydro dros eu tir. Mae’n ceisio edrych ar gwestiynau am eiddo, y gyfraith, economi ac ecoleg o leiniau penodol o dir. Y prif gymeriadau yw’r tiroedd yma a’r bobl sy’n eu gweithio. Mae ei hymchwil yn cynnwys llawer o ddisgyblaethau ac mae’n cael ei ddefnyddio mewn sawl methodoleg gasgliadol a phrosiect cydweithredol.

Mae Rebecca Jagoe yn artist anneuaidd, anabl ac awtistig, sy’n gweithio gyda thestun, perfformiad a cherflunio. Mae eu gwaith yn gofiant materol sy’n archwilio sut mae profiadau o salwch, gwallgofrwydd, a rhywedd yn cael eu llywio gan naratifau Gorllewinol imperialaidd penodol o gwmpas y ‘dynol’, a goruchafiaeth ddynol dros y ddaear. Mae’n cynnig beirniadaeth am echdynnu adnoddau’n dreisgar; trio siarad â mwclis cwrel; ceisio cysylltiad erotig gyda thraeth yn Wicklow; ystyried y cysylltiadau rhwng gwallgofrwydd, tirlun a chyfalaf: Mae gwaith Jagoe yn ein hatgoffa bod pob mater yn fyw, ond ei fod yn symud ar amserlenni gwahanol.

Arbrawf ffeministaidd yw Open-weather sy’n arbrofi gyda delweddu a dychmygu’r ddaear a’i systemau tywydd gan ddefnyddio offer DIY. Dan gyd-arweiniad Soph Dyer a Sasha Engelmann, mae open-weather yn creu gwaith celf, yn arwain gweithdai cynhwysol, ac yn datblygu adnoddau ar dderbyn delweddau o loerennau’r Swyddfa Genedlaethol Gweinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig (NOAA). Drwy’r gweithgareddau yma, mae rhwydwaith bregus wedi ffurfio o gwmpas y prosiect, sydd bellach yn cynnwys cant o weithredwyr gorsafoedd tir lloerennau DIY o amgylch y byd, o Buenos Aires i Berlin. Yn nhraddodiad ffeministiaeth groestoriadol, mae open-weather yn ymchwilio i wleidyddiaeth lleoliad a gormesau rhyng-gysylltiedig sy’n siapio ein gallu i archwilio, negodi ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Wrth wneud hynny, mae open-weather yn herio cynrychioliadau dominyddol o’r ddaear a’r amgylchedd, gan gymhlethu syniadau o’r tywydd y tu hwnt i’r meteorolegol.

Ystâd deuluol ar lannau’r Afon Wysg yn y Bannau Brycheiniog yw Penpont, ac mae’n gartref i Brosiect Penpont, sef prosiect ar y tir sy’n pontio’r cenedlaethau. Mae pobl ifanc yn gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr, perchnogion tir, cadwraethwyr a rhanddeiliaid lleol, a gyda’i gilydd maen nhw’n adfer cynefinoedd ac ecosystemau ac yn archwilio dulliau arloesol ar gyfer ffermio a choedwigaeth er mwyn darparu system cymorth iach i bobl, bioamrywiaeth ac amaethyddiaeth.

Hanesydd celf, cynhyrchydd, addysgwr ac ymarferydd achlysurol yw Sophie Mak-Schram. Mae’n hoffi meddwl-gweithio-creu-bod am sut rydyn ni’n (dod i) ddeall ac ar ba ffurfiau mae’r dealltwriaethau yna. Ymhlith pethau eraill, roedd Sophie’n un hanner o Tail Bend Travel (2016-2019), sef cwmni teithiol (ffuglennol ar adegau) oedd yn cynnig ffyrdd newydd o archwilio’r lleol; roedd hi’n aelod o Brosiect Cera, sef llwyfan curadurol ar gyfer celf nad yw’n Orllewinol; roedd hi hefyd yn aelod o PACTO, sef casgleb gelf ryngwladol a oedd yn archwilio ymreolaeth mewn arfer casgliadol. Mae hi hefyd wedi bod yn gweithio gydag addysg brofiadol ac ymgorfforedig ers 2016, gan archwilio sut rydyn ni’n deall pwy ydyn ni a beth allwn ni ei wneud gyda’r ddealltwriaeth yna, ar draws cymunedau yn Nhwrci, Cymru, Tsieina, Japan, yr Iseldiroedd, India, Lloegr, yr Eidal a mwy. Mae’n hoffi treulio amser yn yr ‘ac’ rhwng celf ac addysg.

Caiff Stiwdio Fieldwork ei arwain gan yr artist o Gymru Phoebe Davies mewn partneriaeth â Slade Farm Organics, sef tenantiaeth fferm deuluol tair cenhedlaeth ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae rhaglen y stiwdio yn cynnwys datblygu artistiaid, preswylfeydd gwledig a thyfu cymunedol.

Addysgwr yw Fin Jordao (nhw) sy’n gweithio ym maes glanweithdra ecolegol, ecoleg ddynol, datrysiadau llygredd dŵr, a chysylltiadau dynol – gwastraff – lle. Nhw sy’n cynnal y systemau dŵr a charthffosiaeth oddi ar y grid yng nghanolfan CAT. Maen nhw’n ffermio mwydod, microbau, ffyngau a phethau amryfath eraill mewn hidlyddion tywod, bioadweithyddion, a phentyrrau compost. Maen nhw’n ymchwilio ac yn ysgrifennu am estheteg ecolegol ac ecoleg gwiar, ar ffurf maniffestos, zines, sgriptiau a sgoriau coreograffig. Ar hyn o bryd, maen nhw’n teithio â pherfformiad cyfranogol awyr agored gyda chasgleb Glanio yng Nghymru. Cyd-sefydlon nhw gwmni nid-er-elw newydd sbon o’r enw Criw Compostio, sy’n casglu pethau sy’n pydru er mwyn creu compost i dyfu bwyd. Maen nhw’n byw gyda’u partner mewn tŷ gwellt a adeiladwyd ganddyn nhw yn nyffryn Dyfi, a Phortiwgaleg yw eu mamiaith.