Our Plot \ Ein Darn o Dir
Transforming Yr Hen Ysgol’s old playground into a community garden.
Together with young people and local residents, we’ve begun to imagine a future community garden for the former playground and car park of The Old School. This work is inspired by the following set of principles developed by Peak Peers alumni:
the garden will be a place to grow things we love
the garden will create community
the garden will be an artist studio
the garden will be a collaborator
the garden will not have any clocks
Across 2024 young people worked with artist Sahra Hersi and collaborators Owen Griffiths and Old School residents, to imagine different possibilities for the garden - working with collage and model-making and hosting community consultation. You can read more about Play/Ground activities here.
2024 also saw the beginnings of plentiful food growing on the site, led by local residents working with gardener Eileen Williams-Sweet. The Our Plot community gardening group met throughout summer and autumn for a series of garden workshops, growing and making towards a shared Autumn meal.
The group continued to experiment and learn throughout 2025: sowing, watering, harvesting and cooking together.
How to take part
Our Plot continues to self-organise, using Peak’s current growing space of sunny raised beds to explore growing, cooking and preserving, and share food together.
If you’d like to explore growing food in a friendly group of mixed ages and experience, contact polly@peak.cymru or leave a message at 01873 811579 and we'll let you know more information about Our Plot’s fortnightly meeting times.
Future Activities
Carrying the ideas, experiments and creations of young people and residents living locally, we’re now working with Abergavenny-based garden designer Sarah Price to create a sustainable, imaginative planting vision. We’re also excited to continue working with artist Sahra Hersi, who will create a collaborative artwork within the new garden.
Support
This project is supported by The National Lottery Community Fund, Social Farms and Gardens and The Oakdale Trust.
Trawsnewid hen iard chwarae Yr Hen Ysgol yn ardd gymunedol.
Ynghyd â phobl ifanc a phobl leol, rydym wedi dechrau dychmygu gardd gymunedol i’r dyfodol ar gyfer hen iard chwarae a maes parcio Yr Hen Ysgol. Ysbrydolwyd y gwaith hwn gan gyfres o egwyddorion a ddatblygwyd gan aelodau blaenorol Peak Peers:
gardd a fydd yn ofod i dyfu pethau rydyn ni’n eu caru
gardd a fydd yn creu cymuned
gardd a fydd yn stiwdio i artistiaid
gardd a fydd yn gydweithiwr
gardd heb glociau.
Yn ystod 2024 bu pobl ifanc yn gweithio gyda’r artist Sahra Hersi a’r cydweithwyr Owen Griffiths a phobl o’r gymdogaeth o gwmpas yr Hen Ysgol, er mwyn dychmygu gwahanol bosibiliadau ar gyfer yr ardd – gweithio gyda torluniau a chreu modelau a chynnal ymgynghoriad cymunedol. Gallwch ddarllen rhagor am weithgareddau Maes/Chwarae fan hyn.
Hefyd yn 2024 tyfwyd bwyd ar y safle am y tro cyntaf, gyda phreswylwyr lleol wrth y llyw, yn gweithio gyda’r garddwr Eileen Williams-Sweet. Bu grŵp garddio cymunedol Ein Darn o Dir yn cwrdd drwy gydol yr haf a’r hydref i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai garddio, gan dyfu a chynaeafu bwyd cyn cynnal gwledd Hydrefol cymunedol.
Bu’r grŵp yn parhau i arbrofi a dysgu drwy gydol 2025: hau, dyfrio, cynaeafu a choginio ar y cyd.
Sut i gymryd rhan
Mae Ein Darn o Dir yn cynnal eu hunain o hyd, drwy ddefnyddio’r gwelyau dyrchafedig ar dir Peak i dyfu, coginio, cadw a rhannu bwyd gyda’i gilydd.
Os hoffech chi dyfu bwyd fel rhan o grŵp cyfeillgar o bobl o bob oed a phrofiad, cysylltwch â polly@peak.cymru neu gadewch neges ar 01873 811579 a gallwn roi rhagor o wybodaeth i chi ynglŷn â sesiynau Ein Darn o Dir sy’n digwydd bob pythefnos.
Gweithgareddau i ddod
Gan gadw mewn cof syniadau, arbrofion a chreadigaethau’r bobl ifanc a’r bobl leol, rydym bellach yn gweithio gyda Sarah Price, dylunydd gerddi o’r Fenni er mwyn creu gweledigaeth plannu cynaliadwy a dychmygus ar gyfer yr ardd. Rydym hefyd yn edrych ymlaen i gael gweithio gyda Sahra Hersi, fydd yn creu gwaith celf cydweithredol yn yr ardd newydd.
Cefnogaeth
Caiff y project hwn ei gefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Social Farms and Gardens ac Ymddiriedolaeth Oakdale.