Comisiynau | Commissions

This page is a space for in-progress research and new commissions from artists working with and alongside Peak’s past, ongoing and future programmes.

Mae'r dudalen hon yn ofod byw i ni arddangos gwaith-ar-waith, ymchwil a chomisiynau newydd gan artistiaid sy'n gweithio fel rhan o raglenni Peak.


Marva Jackson Lord

Ecosystem and Meditation on Multilingualism

Ecosystem a Myfyrdod ar Amlieithrwydd

Poster box Commission | Comisiwn Poster mewn Ffrâm

Platfform 2: June 10th - July 4th | 10 Mehefin - 4 Gorffennaf

Ecosystem and Meditation on Multilingualism are two new works by Marva Jackson Lord reflecting on voice, language and the realities of being a Black woman living in this part of rural Wales. In the pair of works, Marva centres her own silhouette in the landscape, evoking invisible histories of Black people in perceived white environments.

 Dau ddarn newydd o waith gan Marva Jackson Lord yw Ecosystem a Myfyrdod ar Amlieithrwydd, sy’n myfyrio ar y llais, iaith, a realiti bod yn fenyw Ddu sy’n byw yn y rhan yma o gefn gwlad Cymru. Yn y ddau ddarn, mae Marva’n gosod ei silwét ei hunan yn ganolog yn y tirlun, gan ddwyn i gof hanesion anweledig pobl Dduon mewn amgylcheddau a gaiff eu hystyried yn rhai gwyn.

In developing this work, Marva wove together her first memory of hearing Cymraeg, when she thought she was hearing Jamaican Patois, with her personal relationship to landscape. Mapping Jamaica's Blue Mountains onto the Brecon Beacons, Marva traces linked histories and colonial legacies, underpinned by her long-term exploration of language, emotional memory and her deep personal connection with the land which has been her home for twenty years.

 Wrth ddatblygu’r gwaith yma, plethodd Marva ei hatgof cyntaf o glywed y Gymraeg, pan oedd hi’n meddwl mai Jamaiceg roedd hi’n ei chlywed, gyda’i pherthynas bersonol gyda thirlun. Gan fapio Mynyddoedd Gleision Jamaica ar Fannau Brycheiniog, mae Marva’n olrhain hanesion cysylltiedig a gwaddol trefedigaethol, ac yn sail iddynt, ei harchwiliad hirdymor o iaith, cof emosiynol, a’i chysylltiad personol dwfn gyda’r tir sydd wedi bod yn gartref iddi ers ugain mlynedd.

Commissioned by Peak and Pegwn, this is the first in a series of poster box commissions which will gently share artist works and research emerging from Casgleb, on Platfform 2, Abergavenny Train Station. Marva Jackson Lord is a Canadian-Jamaican artist based in the Brecon Beacons, whose work across poetry, sound and digital media explores landscape and fantastical narratives.

Mae hi wedi’i chomisiynu gan Peak a Pegwn, a dyma’r cyntaf mewn cyfres o waith comisiwn Poster mewn Ffrâm a fydd yn rhannu’n dyner ymchwil a gwaith artistiaid sy’n deillio o Casgleb, ar Blatfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni. Artist Jamaicaidd-Canadaidd yw Marva Jackson Lord sy’n byw yn y Bannau, ac mae ei gwaith ym maes barddoniaeth, sain, a’r cyfryngau digidol yn archwilio tirwedd a naratifau rhyfeddol.


Walking Backwards into the Future

Cerdded am yn ôl Tua’r Dyfodol

Online | Ar-lein: 4/11 2021 - 30/03 2022

Kandace Siobhan Walker - Kirsti Bohata - Esyllt Angharad Lewis


Fel grŵp o gomisiynau i’w gwylio, darllen a’u clywed ynghyd, mae’r tri darn yn ffurfio cywaith llawn syniadau am yr hyn mae’n ei olygu i edrych tua’r dyfodol nawr. Maent hefyd yn cynnig ffyrdd o feddwl, dychmygu a gweithio gyda’n gilydd i ni yn Peak, wrth i ni gychwyn cyfnod o ymchwil a datblygu hir-dymor gyda Phlatfform 2, ein gofodau newydd yng ngorsaf drenau’r Fenni.

Viewed, read and listened to together, this group of commissions collects together a toolkit of ideas for what it means to look to the future now. They also offer strategies for ways of thinking, imagining and working together for the Peak team, as we enter a period of long-term research and development centred around Platfform 2, our new spaces at Abergavenny Train Station.