Peak Peers / Cyfoedion Peak 2026

Full Contributor Biographies

DARCH is a disabled Welsh collective formed by Umulkhayr Mohamed and Radha Patel. Their practice is grounded in care-centred approaches, and a politics of solidarity, liberation, and ancestral honouring. Together, they explore rituals, shrine building, animism and relationships to land through sound work, conversations, storytelling, performance and sculpture. In 2025 DARCH presented work at Liverpool Biennale, and in 2026 they will be showing work at Mission Gallery, g39, MOSTYN and Ty Pawb. 

Umulkhayr Mohamed is a Welsh Somali artist, writer, curator, and educator working under the alias Aisha Ajnabi. Their sound, installation and performance practice explores emancipatory temporalities, animist and ancestral spirituality, and a politics of solidarity and liberation. They seek to dissolve the boundaries between beings and reveal a shared wholeness. 

Radha Patel is a storyteller whose work reflects on colonialism, nature, religion, rituals, language, folklore and speculative futures. Approaching folklore as resistance, Radha creates new rituals and objects that seek ancestral guidance to subvert systems of capitalism, racism and war, and build new systems centred on compassion and kinship.   

Teasel is a queer cooperative project focussed on land justice and land connection. Their aim is to engage local and wider communities in (re)connecting with the land through workshops, skillshares, celebrations and political education. Teasel envisions a world where everyone has access to good, culturally appropriate, and ecologically produced food; where different cultural land and food practices - new and old - are celebrated; and we are all nourished through connection with the land and the more-than-human world. We’ll be joined by Olive Magill and Beli Evans from Teasel.  

Olive Magill is an ecologist interested in often-overlooked plants, mosses, lichens and fungi that reveal the health and history of our landscapes. She believes that reconnecting with nature— through practices such as foraging and sustainably growing our own food— is vital in restoring ecological balance and collective wellbeing. 

Beli Evans is a Welsh fat trans disabled writer, artist and performer with a decade of experience in sustainability and activist communications. Their understanding of land justice draws on experiences of growing up in the Welsh valleys, time living in the US, indigenous activist history, and working-class perspectives.  

Jenő Davies is a multidisciplinary artist from West Wales, working across sculpture and film, focusing on hand-made approaches. Their work blurs fantasy with the every-day, living and working at the rural periphery whilst embracing sentimentality and conflict found in these spaces.   

Iolo Walker is a multidisciplinary artist based in Eryri, Wales. Their practice spans filmmaking, digital embroidery and sculpture, exploring queer ecologies (understanding nature, biology, and sexuality in the light of queer theory) and mutating landscapes. They approach filmmaking in a horizontal, community and DIY way, merging modern narratives and cultural phenomena to reinterpret myths or ancient archetypes, fusing the past, the present, and the future. 

Common/Wealth is a political theatre company based in Bradford and Cardiff. They make radical, experimental, site-specific theatre that addresses the social injustices and urgent concerns of our times, in partnership with the people most affected by inequity. Rooted in socialist politics, working-class backgrounds and a radical ambition to shift things, they often co-create performances with local people, presenting them in the heart of communities: a residential house, a boxing gym, or a car park. Common/Wealth’s most recent work includes Demand the Impossible, exploring police infiltration and injustice within activist movements. 

Rhiannon White is co-founder and co-director of Common/Wealth. Rhiannon has also worked with NTW, National Theatre, Chapter, BAC, Southbank Centre and Circus 2 Palestine. She is a Clore Fellow, a recipient of a Creative Wales Award, and she was also a panel member on the Inquiry into the Future of Civil Society chaired by Julia Unwin. Rhiannon is co-author of Do It Yourself: Making Political Theatre

Bianca Ali is an activist, actress, spoken word artist, writer and aspiring theatre director from Cardiff. Her credits include Assistant Director for National Theatre Wales on Circle of Fifths and Cost of Living; co-writing and performing The Struggle is Real on the Ladies of Rage’s EP Harddwch dy; performing with Common/Wealth at The Posh Club; and facilitating Common/Wealth programmes, including Act Your Age. Bianca was the lead figure of the Black Lives Matter Movement in Cardiff, advocating for an anti-racist Wales.  

Poet, composer and singer Casi Wyn. Casi’s music has been performed by the BBC National Orchestra of Wales, Sinfonia Cymru, and Theatr Cymru and National Dance Company Wales. Casi worked with Peak across 2025 as the guest curator of Pegwn, developing a programme for artists which explored the Welsh language as a tool for rooting into place and uprooting the imagination. Casi is the Creative Director and Editor of independent Welsh magazine, Codi Pais and led the Urdd’s Peace and Goodwill message in 2024. 

Matter at hand is the design practice of Lewis Jones, a designer working across architecture, material science and hands-on construction. His work explores the materials and processes that shape our built environment, using waste, industrial by-products, and natural resources to develop more equitable ways of building. Lewis co-founded the architecture and design collective Assemble (2010) and co-led a long-term collaboration with residents of the Granby Four Streets in Liverpool to help rebuild their neighbourhood— a project awarded the Turner Prize (2015). He later developed Granby Workshop, a neighbourhood-based ceramics manufacturer, and undertook a PhD at the University of Liverpool (2024) focused on low-carbon ceramic buil

Bywgraffiadau Llawn ein Cyfranwyr  

Casgleb anabl o Gymru yw DARCH a ffurfiwyd gan Umulkhayr Mohamed a Radha Patel. Wrth wraidd DARCH y mae’r syniad o ddefnyddio dulliau gofalgar sydd wedi eu harwain gan wleidyddiaeth undod, rhyddhau ac anrhydeddu cynfamol. Gyda’i gilydd, maen nhw’n archwilio defod, animistiaeth, adeiladu cysegrfeydd a pherthnasau â’r tir drwy gyfrwng gwaith sain, sgyrsiau, adrodd stori, perfformio a cherflunio, Yn 2025 cyflwynodd DARCH waith ym Miennale Lerpŵl, ac yn 2026 byddan nhw’n dangos gwaith yn Oriel Mission, g39, MOSTYN a Tŷ Pawb.  

Artist, sgwennwr, curadur ac addysgwr Somali Cymreig yw Umulkhayr Mohamed, sy’n gweithio o dan yr arallenw Aisha Ajnabi. Mae eu gwaith sain, gosod, a pherfformio yn archwilio amser rhyddfreiniol, ysbrydoldeb animistaidd a hynafiadol, a gwleidyddiaeth undod a rhyddhau. Maen nhw’n ceisio ymdoddi’r ffiniau rhwng pethau byw a datguddio’r cyfander a rannwn. 

Storïwr yw Radha Patel, sy’n creu gwaith yn myfyrio ar drefedigaethedd, natur, crefydd, defodau, iaith, straeon gwerin a dyfodolau damcaniaethol. Gan ddod at straeon gwerin fel dull o wrthsefyll, mae Radha’n creu defodau a gwrthrychaunewydd sy’n ceisio arweiniad cynfamol er mwyn tanseilio systemau cyfalafol, hiliol a rhyfelgar, gan adeiladu systemau newydd gyda thrugaredd a chyd-gariad wrth eu calon.  

Project cydweithredol cwiar yw Teasel sy’n canolbwyntio ar gyfiawnder tir a chysylltiad at dir. Eu bwriad yw ymgysylltu gyda chymunedau lleol ac ehangach wrth (ail)gysylltu gyda’r tir drwy weithdai, rhannu sgiliau, dathliadau ac addysgwleidyddol. Mae Teasel yn dychmygu byd lle mae gan bawb fynediad at fwyd da wedi ei gynhyrchu’n ecolegol, sy’n addas yn ddiwylliannol; lle y caiff arferion diwylliannol o ran bwyd a thir – hen a newydd – eu dathlu; lle mae gan bawb fynediadat fwyd maethlon drwy gysylltiad gyda’r tir a’r byd mwy-na-dynol. Bydd Olive Magill a Beli Evans o Teasel yn cadw cwmni i ni. 

Ecolegydd yw Olive Magill, sy’n ymddiddori mewn planhigion, mwsogl, cennau a ffyngau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, ond sy’n datgelu iechyd a hanes ein tirweddau. Mae’n credu bod ailgysylltu gyda natur— drwy gyfrwng arferion megisfforio a thyfu ein bwyd yn gynaliadwy— yn hanfodol er mwyn adfer cydbwysedd ecolegol a llesiant casglebol. 

Sgwennwr, artist a pherfformiwr traws tew o Gymru yw Beli Evans, sydd â degawd o brofiad ym meysydd cynaliadwyedd a chyfathrebu ymgyrchol. Mae eu dealltwriaeth o gyfiawnder tir yn deillio o’u profiadau’n tyfu lan yng nghymoedd de Cymru, cyfnod yn byw yn yr Unol Daleithiau, hanes ymgyrchu brodorol, a safbwyntiau dosbarth gweithiol.  

Artist amlddisgyblaethol o Orllewin Cymru yw Jenő Davies, sy’n gweithio gyda cherflunwaith a ffilm, gan arbenigo mewn gwneud gwaith â llaw. Mae eu gwaith yn cymylu ffantasi gyda bywyd beunyddiol, wrth fyw a gweithio ar y cyrion gwledig, gan gofleidio’r sentimentaleiddiwch a’r gwrthdaro sydd i’w canfod yn y llefydd hyn.

Artist amlddisgyblaethol sy’n byw yn Eryri yw Iolo Walker. Mae eu hymarfer yn rhychwantu ffilmwneuthuro, brodwaith digidol a cherflunio, gan archwilio ecolegau cwiar (deall natur, bioleg, a rhywioldeb yng ngoleuni theori cwiar) a thirweddau’ncamdreiglo. Maen nhw’n dod at ffilmwneuthuro o ogwydd hafal, cymunedol a DIY, gan gyfuno naratifau cyfoes gyda ffenomena diwylliannol er mwyn ailddehongli chwedlau neu gynddelwau hynafol, gan asio’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol.  

Cwmni theatr gwleidyddol yw Common/Wealth sy’n gweithio yn Bradford a Chaerdydd. Maen nhw’n creu theatr radical, arbrofol, safle-benodol sy’n mynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol a phroblemau dyrys ein cyfnod, mewnpartneriaeth â’r bobl sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan anghydraddoldeb. Gyda’u gwreiddiau mewn gwleidyddiaeth sosialaidd, eu cefndiroedd dosbarth gweithiol a’u dyhead radical i newid pethau, maen nhw’n aml yn cyd-greu perfformiadau gydaphobl leol, a’u cyflwyno yng nghalon cymunedau: tŷ preswyl, campfa paffio, neu faes parcio lleol. Mae gwaith mwyaf diweddar Common/Wealth yn cynnwys Demand the Impossible, cynhyrchiad sy’n ymdrîn â’r modd y mae’r heddlu’n treiddio’nanghyfiawn i grombil mudiadau ymgyrchu. 

Rhiannon White yw cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Common/Wealth. Mae Rhiannon hefyd wedi gweithio gyda NTW, National Theatre, Chapter, BAC, Canolfan Southbank a Circus 2 Palestine. Mae hi’n Gymrawd Clore, wedi derbynGwobr Cymru Greadigol, ac roedd hi hefyd yn aelod panel ar yr Inquiry into the Future of Civil Society a gadeiriwyd gan Julia Unwin. Rhiannon yw cyd-awdur Do It Yourself: Making Political Theatre

Ymgyrchydd, actores, artist gair llafar, sgwennwr a chyw-gyfarwyddwr theatr o Gaerdydd yw Bianca Ali. Mae ei CV yn cynnwys Cyfarwyddwyr Cynorthwyol gyda National Theatre Wales ar Circle of Fifths a Cost of Living; cyd-sgwennwr a pherfformiwr The Struggle is Real ar Harddwch dy, EP y Ladies of Rage; perfformio gyda Common/Wealth yn The Posh Club; a hwyluso rhaglenni Common/Wealth, gan gynnwys Act Your Age. Bianca oedd prif ffigwr Mudiad Black Lives Matter Caerdydd, gan eirioli dros Gymru gwrth-hiliol.  

Y bardd, cyfansoddwr a’r canwr Casi Wyn. Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinfonia Cymru, Theatr Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi perfformio gwaith Casi. Bu Casi’n gweithio gyda Peak yn ystod 2025 fel curadurgwadd Pegwn, gan ddatblygu rhaglen ar gyfer artistiaid er mwyn archwilio’r Gymraeg fel offeryn i blannu gwreiddiau, a dadwreiddio’r dychymyg mewn perthynas â lle. Casi yw Cyfarwyddwr Creadigol a Golygydd y cylchgrawn Cymraeg annibynnol Codi Pais, a hi arweiniodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da Yr Urdd yn 2024.  

Matter at hand yw ymarfer dylunio Lewis Jones, dylunydd sy’n gweithio ym meysydd pensaernïaeth, gwyddoniaeth materol ac adeiladu ymarferol. Mae ei waith yn archwilio’r deunyddiau a’r prosesau sy’n siapio ein hamgylchedd adeiledig, ganddefnyddio gwastraff, isgynnyrch diwydiannol, ac adnoddau naturiol er mwyn datblygu ffyrdd tecach o adeiladu. Lewis yw cyd-sylfaenydd y casgleb pensaernïaeth a dylunio Assemble (2010) ac roedd yn gyd-arweinydd ar gydweithrediadhirdymor gyda phreswylwyr y Granby Four Streets yn Lerpŵl i helpu ailadeiladu eu cymdogaeth— project a dderbyniodd y Turner Prize (2015). Yn ddiweddarach roedd yn gyfrifol am ddatblygu’r Granby Workshop, gwneuthurwr seramegcymdogol, ac astudiodd PhD ym Mhrifysgol Lerpŵl (2024) oedd yn canolbwyntio ar ddeunyddiau adeiladu carbon-isel serameg sy’n cael ei lunio o wastraff mwynol y DU.