About

Introduction 

Peak Cymru is an arts organisation based in the Black Mountains, Southeast Wales. We work with young people (14-30 years), artists and intergenerational communities to respond to our rural context and the pressing social and ecological issues of our time. We create young people’s programmes, host artist residencies and commissions and collaborate with cross-sector partners and intergenerational communities on long-term place-based change.    

Our work is deeply rooted in the cultures, practices and places of rural Wales yet is internationally connected to other rural contexts. We believe that: rurally-based communities hold a vital role in shaping alternative futures; that artists imagine and manifest new ways to live; and young people need intergenerational solidarity and support to do the work of the future. We work with artists and cross-disciplinary practitioners whose work offers new approaches and visions at a time of climate collapse, and our programmes offer hopefulness, critical dialogue and creative tools for exploring what we call the radical rural imagination.  

Our Vision

A thriving future Wales, shaped by artists, young  people and rural intergenerational communities engaged in collective action and creativity.  

Our Mission 

We equip artists, young people and rural intergenerational communities with the relationships, creative resources and critical tools to shape a thriving Wales through the radical rural imagination.   

Cyflwyniad 

Sefydliad celfyddydol yw Peak Cymru wedi ei wreiddio yn y Mynydd Du, De Ddwyrain Cymru. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc (14-30 oed), artistiaid, a chymunedau aml-genhedlaeth i ymateb i’n cyd-destun gwledig, a materion cymdeithasol ac ecolegol brys ein hoes. Rydym yn creu rhaglenni i bobl ifanc, yn croesawu artistiaid preswyl a chomisiynau ac yn cydweithio gyda chymunedau aml-genhedlaeth a phartneriaid ar draws y sector er mwyn creu newid hirdymor o fewn ein milltir sgwâr.

Mae ein gwaith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliannau, arferion a llefydd y Gymru wledig, ond rydym hefyd yn credu mewn cynnal sgyrsiau gyda chyd-destunau gwledig eraill yn rhyngwladol. Rydym yn credu: bod gan gymunedau gwledig swyddogaeth hanfodol wrth ffurfio dyfodolau amgen; bod artistiaid yn dychmygu a chreu ffyrdd newydd o fyw; a bod angen i undod a chefnogaeth ddod gan bobl o bob oed er mwyn i bobl ifanc wneud gwaith y dyfodol. Rydym yn gweithio gydag ymarferwyr traws-ddisgyblaethol y mae eu gwaith yn cynnig dulliau a gweledigaethau newydd mewn cyfnod o ddymchweliad amgylcheddol, ac mae ein rhaglenni’n cynnig gobaith, sgyrsiau beirniadol ac offer creadigol er mwyn archwilio’r hyn y galwn yn ddychymyg gwledig radical.

Ein Gweledigaeth

Cymru sy’n ffynnu tua’r dyfodol, wedi ei ffurfio gan artistiaid, pobl ifanc a chymunedau gwledig o bob oed, drwy greu a gweithredu ar y cyd. 

Ein Cenhadaeth 

Darparu adnoddau creadigol, offer critigol a chysylltiadau er mwyn i artistiaid, pobl ifanc a chymunedau gwledig o bob oed allu ffurfio Cymru ffynniannus gan ddefnyddio ein dychymyg gwledig radical.

What we do 

We deliver place-based programmes for young people. Our keystone programmes Peak Peers (18-30 years) and Rural Stiwdio (14- 18 years) offer opportunities to work in small peer groups with artists and cross-disciplinary practitioners to explore contemporary issues and creative practices through the lens of the Black Mountains and Usk Valley.   

We support a growing network of young people around our key programmes, offering follow-on opportunities such as commissions, mentoring, paid creative roles and professional development – and participation in community-led change.  

We create opportunities for artists, curators and cross-disciplinary research through commissions, residencies and long-term programme research, responding to the unique qualities of our region and in dialogue with emerging ideas and practices.  

We work collaboratively with diverse partners, local people and Young People to activate place-based change; current areas of focus include the development of a community garden at our Old School site, restoration of the River Usk and affordable housing.  

We ‘build fields’ through peer exchange and dialogue, with a focus on rural contexts and progressive organisational practices in the U.K. and Europe, working with this learning back in our local context.  

How we work 

We prioritise creating well-paid, supported and flexible working conditionsfor the staff, artists, young people and collaborators we work with. We transfer resources directly to the young people offering paid bursaries for time, travel and materials.  

We're committed to equity, access and diversity in our programme, governance and organisational structures, supporting people with diverse backgrounds,lived experiences and identities. We practice a co-leadership model towards increasing the future diversity of Peak’s staff and supporting youth leadership.  

We embrace Cymraeg as a working, living language across our programme, communications and practices. 

We develop long-term working relationships with young people, collaborators and partners which contribute to a growing constellation of people and partners working together for change.  

We’re committed to building income generation that is sustainable and holistically aligned with our mission and values, from ethical future-facing sources.

Our Strategic Principles

  • Work with, and for, Young People  

  • Be a good neighbour   

  • Support artist, curator + cross-disciplinary research  

  • Root global conversations in the local  

  • Celebrate the unique qualities and ecologies of our region  

  • Embrace Cymraeg as a working, living language  

  • Build fields + be a catalyst for change  

  • Act ecological.  

Our Strategic Aims

We are currently working with our board, Young People’s network and collaborators to define our Strategic Aims for 2026-28 and we publish these in Spring 2026.   

Ein gwaith

Rydym yn cyflwyno rhaglenni lleoledig er lles pobl ifanc. Mae ein rhaglenni craidd Peak Peers (18-30 oed) a Rural Stiwdio (14- 18 oed) yn cynnig cyfleoedd i weithio mewn grwpiau llai gydag artistiaid ac ymarferwyr trawsddisgyblaethol er mwyn archwilio materion cyfoes ac arferion creadigol drwy ffenest y Mynydd Du a Dyffryn Wysg. 

Rydym yn cefnogi rhwydwaith o bobl ifanc drwy gyfrwng ein rhaglenni craidd, gan gynnig cyfleoedd dilynol megis comisiynau, mentora, swyddi creadigol â thâl, a datblygiad proffesiynol - er mwyn cyfranogi mewn newid a arweinir gan y gymuned.

Rydym yn creu cyfleoedd i artistiaid, curaduron ac ymchwil traws-ddisgyblaethol drwy gyfrwng comisiynau, preswylfeydd ac ymchwil ein rhaglenni hirdymor, gan ymateb i rinweddau unigryw ein rhanbarth a bod yn effro i syniadau ac arferion sy’n dod i’r amlwg. 

Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid amrywiol, pobl leol a Phobl Ifanc i greu newid yn lleol; ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu gardd gymunedol ar safle’r Hen Ysgol, adfer yr Afon Wysg, a thai fforddiadwy. 

Rydym yn ‘adeiladu meysydd’ drwy gynnal deialog a chyfnewid gyda’n cyfoedion, gan ganolbwyntio ar gyd-destunau gwledig ac arferion sefydliadol arloesol yn y DU ac Ewrop, gan osod ar waith yr hyn a ddysgwn o fewn ein cymunedau ein hunain.

Ein ffyrdd o weithio 

Rydym yn blaenoriaethu creu amodau gwaith sy’n talu’n dda, gyda chefnogaeth, ac sy’n hyblyg i staff, artistiaid, pobl ifanc a’n cydweithwyr. Rydym yn trosglwyddo adnoddau’n uniongyrchol i’r Bobl Ifanc gan gynnig bwrsariaethau â thâl ar gyfer eu hamser, eu teithio a’u deunyddiau. 

Rydym yn ymrwymo i gynnal cydraddoldeb, mynediad ac amrywiaeth ar draws ein rhaglenni, ein llywodraethiant a’n strwythurau sefydliadol, gan gefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol, gydag ystod o brofiadau bywyd a hunaniaethau. Rydym yn arfer model cyd-arwain er mwyn cynyddu’r amrywiaeth o fewn tîm staff Peak a chefnogi arweinyddiaeth ymhlith ieuenctid. 

Rydym yn cofleidio’r Gymraeg fel iaith fyw, weithredol yn ein rhaglenni, ein gwaith cyfathrebu a’n harferion. 

Rydym yn datblygu perthnasau gwaith hirdymor gyda phobl ifanc, cydweithwyr a phartneriaid sy’n cyfrannu at rwydwaith cynyddol o bobl a phartneriaid sy’n cydweithio er gwell. 

Rydym yn ymrwymo i adeiladu ffyrdd o gynhyrchu incwm sy’n gynaliadwy ac yn cydfynd yn gyfannol gyda’n cenhadaeth a’n gwerthoedd, ddaw oddi wrth ffynonellau da sy’n edrych tua’r dyfodol. 

Ein Hegwyddorion Strategol

  • Gweithio gyda, ac er lles, Pobl Ifanc 

  • Bod yn gymydog da  

  • Cefnogi ymchwil trawsddisgyblaethol gan artistiaid a churaduron 

  • Gwreiddio sgyrsiau byd-eang yn lleol 

  • Dathlu rhinweddau ac ecolegau unigryw ein rhanbarth 

  • Cofleidio Cymraeg fel iaith weithredol, hyfyw 

  • Adeiladu meysydd + sbarduno newid 

  • Gweithredu’n ecolegol

Ein Bwriadau Strategol 

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda’n bwrdd, ein rhwydwaith o Bobl Ifanc a’n cydweithwyr er mwyn diffinio ein Bwriadau Strategol ar gyfer 2026-28 a byddwn yn cyhoeddi’r rhain yn ystod Gwanwyn 2026.